Ymateb i’r Adolygiad o Atgyfnerthu Trefniadau Llywodraethiant Diogelu, yng Nghymru

Ym mis Hydref 2025, ar ôl galw amdano ers peth amser, croesawais gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddai’n comisiynu adolygiad annibynnol i drefniadau llywodraethu diogelu yng Nghymru. Croesawais hefyd y cyfle i siarad â’i awdur Jan Pickles OBE yn gynharach eleni ac i gyfrannu at yr adolygiad. Yr wythnos hon gwelwyd cyhoeddi’r adroddiad, sy’n cynnwys canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad, fel rhan o ddatganiad a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod ar ei blaenoriaethau diogelu. Mae rhai o’r argymhellion yn cynnwys sefydlu Bwrdd Goruchwylio Diogelu Gweinidogol, sefydlu Hwb Gwybodaeth ganolog, cynhyrchu Cynllun Diogelu Cenedlaethol gyda blaenoriaethau a chanlyniadau cenedlaethol, a Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi’i gryfhau.

Er fy mod yn croesawu argymhellion yr adolygiad mewn egwyddor, mae angen mwy o fanylion ynghylch sut y bydd yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu a’r amserlen y byddant yn cael eu gweithredu ynddi. Mae angen mwy o wybodaeth hefyd ynghylch faint o annibyniaeth sydd i fod yn y goruchwyliaeth a’r craffu ar gynnydd a wneir yn erbyn blaenoriaethau. Rhaid i Gynllun Diogelu Cenedlaethol hefyd ystyried y risgiau penodol y mae babanod, plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, felly rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyn yn cael ei wireddu a bod lleisiau plant a phobl ifanc yn llywio’r cynllun.

Yn ogystal â’r adolygiad, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog hefyd y byddai’r newidiadau hyn yn “creu’r sylfeini ar gyfer ymgynghori yn y dyfodol ar gynigion ar gyfer Awdurdod Diogelu Oedolion a Phlant i Gymru ac adrodd gorfodol ar gam-drin ac esgeulustod”. Rwyf wedi galw am sefydlu Awdurdod Diogelu Plant ers ei argymhelliad gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, felly mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu.

Yn y cyfamser, rhaid cefnogi rhanddeiliaid i weithredu’r newidiadau hyn wrth barhau â’r gwaith hanfodol o ddiogelu babanod, plant a phobl ifanc.

I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma: Adolygiad atgyfnerthu trefniadau llywodraethiant diogelu yng nghymru: cam 1