Diogel, yn Weladwy ac wedi’u Cefnogi: Safbwynt ar Hawliau Plant ynghylch Plant a Phobl Ifanc LGBTQ+ yng Nghymru
Cyflwyniad
Mae gan bob un o blant a phobl ifanc Cymru hawl i fod yn iach, i gael eu parchu, ac i fedru cyrraedd eu llawn botensial. Mae’r hawliau hynny’n cael eu diogelu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), gan gynnwys yr hawl i sicrhau nad oes neb yn gwahaniaethu yn eu herbyn (Erthygl 2 o CCUHP), yr hawl i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er eu lles pennaf (Erthygl 3), yr hawl i fywyd, i oroesi ac i ddatblygu (Erthygl 6 o CCUHP), a’r hawl i fynegi eu barn a chael y farn honno wedi’i chymryd o ddifri (Erthygl 12 o CCUHP). Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod plant a phobl ifanc LHDTC+ yn profi rhwystrau anghymesur mewn meysydd megis addysg, iechyd, lles meddyliol, a chynhwysiant cymdeithasol.[1]
Er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru i hybu cydraddoldeb a chynhwysiant trwy’r Cynllun Gweithredu LHDTC+, mae’r cynnydd o ran cyflawni gwelliannau ystyrlon i blant a phobl ifanc LHDTC+ wedi bod yn gyfyngedig, ac mae llawer yn dal i wynebu rhwystrau.
Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc LHDTC+ yn gallu cael mynediad i addysg gynhwysol (Erthyglau 28 a 29 o CCUHP), gofal iechyd priodol (Erthygl 24 o CCUHP), a gwasanaethau cefnogol yn hanfodol i wireddu eu hawliau, fel y’u nodir yn CCUHP, a’u galluogi i ffynnu fel aelodau cyfartal o’r gymdeithas.
Beth mae Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd wedi’i Ddweud wrthyn Ni
Mae ein gwaith cynghori ac ymgysylltu yn amlygu patrwm cyson o heriau mae plant a phobl ifanc LHDTC+ yn eu hwynebu.
Mae Bwlio yn cael ei godi’n gyson fel pryder, gyda phlant a phobl ifanc yn sôn eu bod yn profi bwlio parhaus, aflonyddu llafar, eithrio cymdeithasol a chyfoedion yn “datgelu eu rhywioldeb”. I rai, roedd yr ymddygiad yma’n ymestyn y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol i’r gymuned ehangach, gan greu pryderon diogelwch parhaus a chyfrannu at ynysu. Gwnaeth un person ifanc y sylw, “mae aflonyddu’n cuddio dan y pryfocio”. Amlygodd person ifanc arall bwysigrwydd hawliau LHDTC+, gan wneud y sylw, “dylai pawb fod yn fwy ymwybodol bod gan bobl LHDTC+ hawliau hefyd.”
Mae’r profiadau hyn yn tanseilio hawliau plant o dan Erthygl 19 o CCUHP, sy’n gofyn eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag pob math o drais, ochr yn ochr ag erthygl 2, sy’n ceisio sicrhau’r hawl i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu yn eu herbyn. Gall bwlio parhaus hefyd atal plant rhag mwynhau’n llawn eu hawl i addysg o dan Erthygl 28.
Roedd pobl ifanc a theuluoedd yn aml yn teimlo bod ymatebion ysgolion a diogelu yn annigonol. Soniodd rhieni a phobl ifanc fod bwlio’n aml ddim yn cael ei gymryd o ddifri, a bod ymyriadau yn adweithiol yn hytrach nag ataliol. Fel y dywedodd un person ifanc, “yr unig bryd mae bwlio’n cael ei drafod yw pan gaiff ei weld, ond does dim byth yn newid.” O ran amrywio’r gefnogaeth, dywedodd un myfyriwr, “maen nhw’n dod o hyd i esgusodion i ganiatáu’r pethau yma” a “rydyn ni’n teimlo ein bod ni ddim yn cael ein cymryd o ddifri.”
Dywedodd un person ifanc*: “Os oes gennym ni ‘le diogel’ [penodedig] mae hynny’n profi nad oes camau’n cael eu cymryd, oherwydd dylai’r ysgol [gyfan] fod yn lle diogel.”
Mae’n hanfodol bod y systemau sydd ar waith i ymateb i ddigwyddiadau a bwlio yn ystyried lles pennaf y plentyn, yn unol ag erthygl 3 o CCUHP. Dywedodd person ifanc hefyd, “dyw cosb heb addysg ddim yn newid ymddygiad rhywun.”
Mae osgoi’r ysgol a datgysylltu oddi wrth addysg wedi cael eu cysylltu â phrofiadau o fwlio a gwahaniaethu. Mae rhai plant a phobl ifanc LHDTC+ wedi datblygu EBSA (Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiynol) oherwydd eu bod yn teimlo’n anniogel yn yr ysgol, ac mae hynny wedi golygu bod eu presenoldeb yn lleihau a’u bod yn datgysylltu o’u haddysg.
Pan fydd plant yn teimlo eu bod yn methu mynd i’r ysgol oherwydd eu bod nhw ddim yn teimlo’n ddiogel neu wedi’u cynnwys, mae eu hawliau o dan Erthyglau 28 a 29 o CCUHP yn cael eu peryglu. Mae’r erthyglau hynny’n cydnabod nid yn unig yr hawl i gael addysg, ond hefyd bwysigrwydd y ffaith bod addysg yn digwydd mewn amgylchedd sy’n cefnogi datblygiad pob plentyn.
Soniwyd bod y profiadau hyn yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant. Soniodd teuluoedd am fwy o orbryder, hunan-niweidio, ystyried hunanladdiad ac ymgeisiau i wneud hynny, yn aml yn gysylltiedig â bwlio parhaus, gwahaniaethu a diffyg cefnogaeth. Gall anawsterau wrth geisio cael mynediad prydlon at wasanaethau iechyd meddwl greu mwy o drallod ar ben hynny.
Mae’r profiadau hyn yn codi pryderon sylweddol mewn perthynas ag Erthygl 24 o CCUHP, sy’n cydnabod hawl pob plentyn i gael y safon uchaf bosibl o iechyd corff a meddwl a mynediad at wasanaethau gofal iechyd priodol.
Soniwyd hefyd am gyfuniadau o wahanol elfennau o hunaniaeth gymdeithasol a nodweddion ychwanegol oedd yn gwneud pobl ifanc yn fregus. Roedd plant a phobl ifanc LHDTC+ oedd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn aml yn wynebu anfanteision mwy dwys, gan gynnwys bod yn fwy tebygol o ddioddef bwlio a mwy o rwystrau i’w hatal rhag cael mynediad at gefnogaeth briodol. Fel y soniodd un person ifanc, “Dylai pobl LHDTC+ gael eu parchu fel pawb arall, a dylai eu ffiniau a’u credoau gael eu parchu hefyd. Dylai bod yn LHDTC+ ddim newid y rheolau i chi, rydych chi’n dal yn berson sy’n bodoli.”
Nodwyd mynediad at ofal oedd yn cadarnhau rhywedd fel pryder gan rai teuluoedd. Roedd y pryderon yn troi o gwmpas y posibilrwydd o amharu ar driniaeth neu ddod ag ef i ben, ac effaith bosibl hynny ar lesiant a iechyd meddwl pobl ifanc.
Dylai mynediad at ofal iechyd priodol gael ei lywio gan les pennaf y plentyn o dan Erthygl 3, eu hawl i fynegi barn ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw o dan Erthygl 12, a’u hawl i gael y safon uchaf posibl o iechyd o dan Erthygl 24 o CCUHP.
Beth rydyn ni’n ei wybod?
Mae tystiolaeth o Gymru yn amlygu bod plant a phobl ifanc LHDTC+ yn dal i brofi bwlio, gwahaniaethu yn eu herbyn a chanlyniadau llesiant gwaelach na’u cyfoedion. Canfu tystiolaeth y cyfeiriwyd ati yng Nghynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru fod 60% o ddysgwyr LHDT yn fynych neu’n aml yn clywed iaith homoffobig yn yr ysgol, tra bod 49% yn clywed iaith ddeuffobig, a 51% yn clywed iaith drawsffobig. Mae pobl LHDTC+ yng Nghymru hefyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn unig na’u cymheiriaid gwahanrywiol.[2] Mae data SHRN yn awgrymu bod pobl ifanc trawsrywiol ac amrywiol eu rhywedd yn sôn am iechyd meddwl a llesiant sy’n waelach na’u cyfoedion rhywedd cis.[3]
O edrych ar hyn i gyd, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod llawer o blant a phobl ifanc LHDTC+ yn dal i wynebu rhwystrau i fwynhau eu hawliau heb wahaniaethu yn eu herbyn (Erthygl 2), i addysg (Erthyglau 28 a 29), ac i iechyd a llesiant (Erthygl 24).
Mae’r dystiolaeth yn amlygu pwysigrwydd ysgolion cynhwysol, teuluoedd cefnogol a gwasanaethau hygyrch wrth wella llesiant a deilliannau addysg. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth benodol i Gymru yn dal yn gyfyngedig ynghylch profiadau iechyd meddwl a deilliannau plant a phobl ifanc LHDTC+. Byddai cryfhau’r casglu data, yr ymchwil a’r gwerthuso yn cynnal gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau mae plant a phobl ifanc LHDTC+ yn eu hwynebu, a byddai’n helpu i ganfod ble mae cynnydd yn digwydd.
I gyd-fynd ag Erthygl 12 o CCUHP mae gwrando ar leisiau plant a’u profiadau bywyd yn hanfodol i sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yn ymateb yn effeithiol i’w hanghenion a gwella canlyniadau ledled Cymru.
Yn ogystal â hynny mae’n bwysig ystyried bod plant a phobl ifanc LHDTC+ yn tyfu i fyny mewn cyd-destun ehangach lle mae rhagfarn a gelyniaeth yn dal yn amlwg. Yn 2023–24, roedd 19% o’r troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru wedi’u symbylu gan elyniaeth at gyfeiriadedd rhywiol, a 5% gan elyniaeth at hunaniaeth drawsrywiol[4]. Er nad yw’r ffigurau hynny’n benodol i blant a phobl ifanc, maent yn amlygu presenoldeb parhaus rhagfarn yn erbyn pobl LHDTC+ yng Nghymru, a phwysigrwydd creu amgylcheddau diogel, cynhwysol lle gall plant ddysgu, cyfranogi a ffynnu yn eu cymunedau.
Beth sy’n digwydd i gefnogi plant a phobl ifanc?
Mae polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn dangos ymrwymiad sylweddol i wella canlyniadau i bobl LHDTC+. Trwy’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ (2023), cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei huchelgais, sef sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cefnogol i bobl LHDTC+ yn Ewrop, a’i bod yn ymroddedig i ymdrin ag anghydraddoldeb ar draws meysydd addysg, iechyd, tai, diogelwch cymunedol a chyfranogiad mewn bywyd cyhoeddus. Fodd bynnag, mae angen monitro a gweithredu parhaus i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu troi’n welliannau ystyrlon a chyson ym mywydau plant a phobl ifanc LHDTC+ ledled Cymru.
Cyflwynodd y Cwricwlwm i Gymru hefyd Addysg orfodol Perthnasoedd a Rhywioldeb (RSE) yn 2022, gan sicrhau bod dysgwyr yn derbyn addysg oed-briodol ynghylch perthnasoedd, amrywiaeth, hawliau a hunaniaeth.
Mae gan ysgolion a lleoliadau addysg gyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ddileu gwahaniaethu yn erbyn pobl, hybu cyfle cyfartal, a meithrin perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau. Mae ysgolion yn gyfrifol am ddatblygu polisïau gwrthfwlio, strategaethau cynhwysiant a mentrau llesiant. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru: Hawliau, Parch, Cydraddoldeb yn ganllawiau statudol ar atal bwlio ac ymateb iddo, gan gynnwys bwlio cysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd.
Mae gwasanaethau cymorth a sefydliadau cymunedol hefyd yn cyflawni rôl bwysig. Ledled Cymru, mae cyrff trydydd sector yn darparu grwpiau ieuenctid, rhwydweithiau cefnogi cyfoedion, gwasanaethau eiriolaeth ac adnoddau gwybodaeth sy’n helpu plant a phobl ifanc LHDTC+ i gael mynediad at gefnogaeth, meithrin hyder a chysylltu ag eraill sy’n rhannu profiadau tebyg.
Mae datblygiadau a heriau cyson yn parhau. Mae datblygiadau cyfreithiol diweddar, gan gynnwys dyfarniad y Goruchel Lys yn achos For Women Scotland Ltd v The Scottish Ministers (2025), wedi sbarduno Llywodraeth Cymru i adolygu’r Cynllun Gweithredu LHDTC+. Mae byrddau iechyd, awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau cymunedol yn parhau i gydweithio i wella mynediad at gefnogaeth a hybu llesiant. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod profiadau’n dal yn anghyson ledled Cymru, gyda rhai plant a phobl ifanc yn dal i wynebu rhwystrau wrth geisio cyrchu gwasanaethau cynhwysol a chefnogaeth sy’n diwallu eu hanghenion.
Beth sydd angen digwydd?
Cyhoeddi canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr trawsrywiol ac amrywiol eu rhywedd
Wedi i Gôd Ymarfer terfynol EHRC gael ei gyhoeddi, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau cynhwysfawr i ysgolion sy’n adlewyrchu’r fframwaith cyfreithiol, ond hefyd yn rhoi cyngor ymarferol, clir ar gefnogi dysgwyr trawsrywiol ac amrywiol eu rhywedd yng Nghymru, gan gyd-fynd â hawliau plant a chyfrifoldebau diogelu.
Cryfhau amgylcheddau addysgol cynhwysol
Mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i ddysgu mewn amgylcheddau lle nad oes gwahaniaethu yn eu herbyn, bwlio na rhagfarn. Dylid cefnogi ysgolion i ymdrin â chynhwysiant ar lefel ysgol gyfan, gan sicrhau bod polisïau, cynnwys y cwricwlwm, hyfforddiant staff a chymorth llesiant fel ei gilydd yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr ac yn meithrin ymdeimlad o berthyn i blant a phobl ifanc LHDTC+.
Mae creu amgylcheddau dysgu cynhwysol yn hanfodol i sicrhau bod plant yn gallu mwynhau eu hawliau o dan Erthyglau 2, 28 a 29 o CCUHP i gael addysg heb fod gwahaniaethu yn eu herbyn.
Taclo troseddau casineb a bwlio ar sail rhagfarn
Wrth i Lywodraeth Cymru symud ymlaen gyda’r gwaith i gryfhau riportio digwyddiadau hiliol mewn ysgolion, hoffen ni weld y gwaith hwnnw’n cael ei ehangu i gynnwys mathau eraill o fwlio ar sail rhagfarn, gan gynnwys digwyddiadau homoffobig, deuffobig, trawsffobig a rhai sy’n bychanu menywod. Byddai datblygu dull cyson, croestoriadol o gasglu data yn sicrhau dealltwriaeth lawnach o brofiadau plant o wahaniaethu yn eu herbyn, gan gydnabod bod llawer o blant yn profi mathau lluosog o ragfarn sy’n gorgyffwrdd. Byddai gwella’r data yn cefnogi ymyriadau wedi’u targedu’n fwy, yn cryfhau atebolrwydd, ac yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn amgylcheddau diogel a chynhwysol i bob dysgwr.
Byddai fframwaith riportio mwy cadarn yn cefnogi gweithredu Erthyglau 2, 3 ac 19 o CCUHP trwy helpu i nodi patrymau o wahaniaethu a niwed, gan sicrhau bod lles pennaf plant yn cael ei ystyried, a chryfhau mesurau i’w hamddiffyn rhag trais a rhagfarn.
Gwella mynediad at gefnogaeth llesiant a iechyd meddwl
Mae mynediad at wasanaethau cefnogi amserol, priodol a chynhwysol yn hanfodol. Dylai gwasanaethau iechyd meddwl, cymorth yn yr ysgol a’r ddarpariaeth lesiant ehangach gael eu paratoi a derbyn adnoddau i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc LHDTC+, gyda gweithwyr proffesiynol yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth priodol i ddarparu gofal cynhwysol sy’n cyfnerthu.
Byddai hynny’n cefnogi hawl plant i’r safon iechyd uchaf mae modd ei chyrraedd, o dan Erthygl 24, ac yn helpu i sicrhau bod eu lles pennaf yn parhau’n brif ystyriaeth mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu gofal (Erthygl 3).
Gwrando ar blant a phobl ifanc a’u cynnwys
Dylai polisïau a gwasanaethau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc LHDTC+ gael eu datblygu gyda nhw, yn hytrach nag ar eu cyfer. Dylai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, gwasanaethau iechyd a chyrff trydydd sector barhau i greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc LHDTC+ ddylanwadu ar benderfyniadau a ffurfio’r gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio.
Mae gwreiddio cyfranogiad ystyrlon wrth ddylunio polisi a gwasanaethau yn hanfodol i gyflawni Erthygl 12 o CCUHP.
Gwella tystiolaeth ac atebolrwydd
Byddai gwella’r casglu data, yr ymchwil a’r gwerthuso yn cryfhau dealltwriaeth o brofiadau a deilliannau plant a phobl ifanc LHDTC+ yng Nghymru, ac yn helpu i ganfod ble mae cynnydd yn digwydd. Bydd monitro gweithrediad y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a pholisïau perthnasol eraill yn rheolaidd yn bwysig er mwyn sicrhau bod ymrwymiadau yn arwain at welliannau ystyrlon ym mywydau plant a phobl ifanc.
Byddai cryfhau monitro ac atebolrwydd yn cefnogi gweithrediad Erthygl 4 o CCUHP, sy’n gofyn bod llywodraethau’n rhoi pob mesur priodol ar waith i wireddu hawliau plant yn ymarferol.
Beth ydyn ni’n ei wneud?
Ein gwaith ar y mater hwn
Rydyn ni wedi gwrando ar leisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc LHDTC+ trwy ein gwaith ymgysylltu ac achosion. Trwy ein cynllun Llysgenhadon Cymunedol, rydyn ni wedi cwrdd â grwpiau ysgol LHDTC+ i’n helpu i lunio’n hymateb i ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a datblygiadau polisi.
Rydyn ni wedi cwrdd yn rheolaidd â swyddogion Llywodraeth Cymru i eiriol o blaid cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr i ysgolion, a buon ni’n cyfranogi yng ngrwpiau ffocws Llywodraeth Cymru ar gyfer gwerthuso proses y Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Yn ystod y flwyddyn nesa, byddwn ni’n:
- Parhau i chwyddo lleisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc LHDTC+, gan gynnwys trwy ein gwaith estyn allan ac ymgysylltu, a’n cynllun Llysgenhadon Cymunedol.
- Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol ynghylch datblygu canllawiau, polisi ac ymarfer.
- Monitro cynnydd ar ymrwymiadau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc LHDTC+ ac eiriol o blaid gwelliannau lle mae angen.
- [1] Llywodraeth Cymru (2023), Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru: Themâu, Tystiolaeth a Chamau Gweithredu.
- [2] Llywodraeth Cymru (2023), Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru: Themâu, Tystiolaeth a Chamau Gweithredu.
- [3] (2026). How Secondary Schools Can Shape Health and Well-being for Transgender and Gender Diverse Young People: Using SHRN Data. [Ar-lein]. https://www.shrn.org.uk. Diweddarwyd ddiwethaf: Chwefror 25, 2026. Ar gael yn: https://www.shrn.org.uk/how-secondary-schools-can-shape-health-and-well-being-for-transgender-and-ge [Cyrchwyd ar 3 Awst 2026].
[4] Llywodraeth Cymru. (2024). Datganiad Ysgrifenedig: Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2024. [Ar-lein]. https://www.gov.wales/. Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2024. Ar gael yn: https://www.gov.wales/written-statement-national-hate-crime-awareness-week-2024?utm_source=chatgpt.c [Cyrchwyd ar 3 Awst 2026].