Rydym yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Dyfu i fyny mewn byd ar-lein: sgwrs genedlaethol. Mae hwn yn gyfle pwysig i fyfyrio ar brofiadau plant ac i gymryd camau ystyrlon i wneud amgylcheddau digidol yn fwy diogel.
Mae plant yn disgrifio’r rhyngrwyd fel lle pwysig ar gyfer cysylltu, creadigrwydd a chefnogaeth. I rai, yn enwedig y rhai sy’n teimlo’n ynysig all-lein, mae gofodau digidol yn rhoi ymdeimlad o berthyn a mynediad at gymunedau na allant ddod o hyd iddynt yn unman arall.
Ar yr un pryd, mae llawer o blant wedi dweud wrthym am y risgiau maen nhw’n eu hwynebu’n rheolaidd – o fwlio ar-lein a phwysau i aros yn gysylltiedig drwy’r amser, i weld cynnwys trallodus neu amhriodol.
Yn aml, mae plant yn llywio’r heriau hyn heb deimlo eu bod yn cael eu diogelu’n llawn, nac yn hyderus y bydd llwyfannau’n gweithredu pan fydd pethau’n mynd o’i le.
Ein safbwynt
Nid ydym yn credu mai’r ateb yw tynnu plant oddi ar ofodau digidol.
Mae cynigion fel gwaharddiad cyffredinol ar gyfryngau cymdeithasol i blant mewn perygl o fethu’r broblem sylfaenol. Maent yn canolbwyntio ar fynediad plant, yn hytrach na diogelwch y systemau y mae plant yn eu defnyddio.
Yn lle hynny, rydym yn credu bod angen newid sylfaenol o ran pwy sy’n gyfrifol. Yn rhy aml, disgwylir i blant, rhieni ac ysgolion reoli risgiau sydd wedi’u hadeiladu i mewn i ddyluniad platfformau digidol. Nid yw hyn yn deg nac yn effeithiol.
Rhaid i gwmnïau technoleg gymryd llawer mwy o gyfrifoldeb am ddiogelwch yr amgylcheddau y maent yn eu creu. Ni ddylai mynediad plant fod yn awtomatig – dylai fod yn amodol ar brofi bod llwyfannau’n ddiogel, yn briodol i oedran, ac wedi’u cynllunio gyda lles plant wrth wraidd.
Ecosystem ddigidol ehangach
Mae profiadau plant yn dangos yn glir nad yw’r risgiau’n gyfyngedig i gyfryngau cymdeithasol.
Maent yn digwydd ar draws ystod eang o fannau digidol, gan gynnwys llwyfannau gemau, gwasanaethau negeseuon a mannau rhyngweithiol eraill. Gallai unrhyw ymateb polisi sy’n canolbwyntio’n rhy gul ar rai llwyfannau fod yn aneffeithiol ac yn hen ffasiwn yn gyflym. Mae angen dull sy’n adlewyrchu’r holl amgylcheddau digidol y mae plant yn eu defnyddio.
Beth sydd angen newid
I wneud y byd ar-lein yn fwy diogel i blant, mae angen gweithredu ar draws y system gyfan. Mae hyn yn cynnwys:
- Dylunio platfformau i fod yn ddiogel o’r dechrau: Sicrhau bod cwmnïau’n cynnwys diogelwch yn eu dyluniad, yn hytrach na ymateb ar ôl i niwed ddigwydd.
- Gorfodi terfynau oedran a chyfyngiadau nodweddion: Defnyddio ac orfodi terfynau oedran a chyfyngu ar nodweddion risg uchel, gan sicrhau na ellir eu hosgoi’n hawdd nac yn symud y risg i le arall.
- Rheolau cryfach ac atebolrwydd: Cyflwyno safonau diogelwch clir a gorfodol, gyda gorfodaeth gadarn a chyfrifoldeb clir ar gyfer cwmnïau – ac, os oes angen, eu harweinwyr.
- Cefnogi cydbwysedd iach: Helpu plant i ddatblygu cydbwysedd iach rhwng bywyd ar-lein ac all-lein, drwy well canllawiau, sgiliau digidol, a mynediad gwell at weithgareddau diogel yn eu cymunedau.
Ein blaenoriaeth
Mae ein blaenoriaeth yn glir:
Dylai plant allu elwa o fod ar-lein heb gael eu hamlygu i niwed diangen. Mae hynny’n golygu creu amgylchedd digidol sy’n ddiogel, yn atebol ac wedi’i seilio ar hawliau plant – nid un lle mae disgwyl i blant reoli’r risg ar eu pen eu hunain.
Nid yw plant eisiau cael eu heithrio o fywyd digidol. Mae nhw eisiau gallu cymryd rhan yn ddiogel.