Amser sgrîn – Gorffenaf/Awst 2025

Cyd destun

Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst gofynnon ni i blant a phobl ifanc am yr amser maen nhw’n treulio ar sgrîn.

Roedd hwn yn dilyn erthygl yn y BBC yn dweud bod Llywodraeth y DU yn ystyried rhou terfyn ar yr amser y mae plant a phobl ifanc yn gallu treulio ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.

Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoson ni fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.

Atebodd 391 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol, a 121 fel rhan o grwp. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 7 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 17  awdurdod lleol. 

Cwestiynau i blant a phobl ifanc

Ydych chi’n defnyddio dyfais gartref?

Ie – mae gen i fy un fy hun (354) – 92%
Ie – rwy’n rhannu un gyda rhywun arall (20) – 5%
Ie – rwy’n benthyg/yn defnyddio un fy rhieni (8) – 2%
Na (3) – 1%

Oes gennych chi unrhyw reolau am amser sgrin gartref?

Hoffen ni glywed am y rheolau rydych chi wedi’u cytuno gyda’ch rhieni neu warcheidwaid.

Ie (204) – 53%
Na (136) – 35%
Dydw i ddim eisiau dweud (45) – 12%

(os oes) Pa reolau sydd gennych chi?

  • Dydw i ddim yn cael ei ddefnyddio amser swper/cinio (107) – 54%

  • Dim ond rhai apiau rwy’n cael eu defnyddio (94) – 47%

  • Rhaid i fi ei ddiffodd ar adeg benodol (87) – 44%

  • Dim ond am gyfnod penodol o amser rwy’n cael ei ddefnyddio (69) – 35%

  • Rhaid i mi ei adael lawr grisiau pan dwi’n mynd i’r gwely (60) – 30%

  • Rheolau eraill (42) – 21%

  • Dydw i ddim yn cael ei ddefnyddio yn fy ystafell wely (24) – 12%

  • Dim ond ar benwythnosau rwy’n cael defnyddio dyfais (12) – 6%

Faint ydych chi’n defnyddio dy ddyfais pob dydd?

0–2 awr: (71) – 33%
3–4 awr: (66) – 31%
5–6 awr: (32) – 15%
7 awr neu fwy: (44) – 21%

Ydych chi wedi gwneud eich rheolau eich hun am amser sgrin?

Hoffen ni glywed am y rheolau rydych chi wedi penderfynu eu gwneud eich hun.

Na (182) – 48%
Ie (142) – 37%
Dydw i ddim yn gwybod (56) – 15%

(os oes) Pa reolau rydych chi wedi’u gwneud?

  • Rwy’n cyfyngu faint o amser rwy’n defnyddio fy nyfais (64)

  • Dydw i ddim yn mynd â’m dyfais i’r ysgol (63)

  • Dydw i ddim yn defnyddio fy nyfais amser swper/cinio (62)

  • Dydw i ddim yn defnyddio fy nyfais pan rwy’n gyda ffrindiau a theulu (52)

  • Dydw i ddim yn cadw fy nyfais yn fy ystafell wely (17)

  • Arall (11)

  • Dim ond pan rwy’n allan o’r tŷ rwy’n defnyddio fy nyfais (8)

Ydych chi’n defnyddio TikTok? (cwestiwn i blant oedran uwchradd yn unig)

Ie (101) – 77%
Na (30) – 23%

Mae gan TikTok derfyn awtomatig o 1 awr ar yr ap os ydych o dan 18 oed.

Ydy hwn gennych chi ymlaen neu i ffwrdd?

I ffwrdd – gallaf ei ddefnyddio cymaint dwi eisiau (67) – 68%
Dydw i ddim yn gwybod (24) – 24%
Ymlaen – gallaf ei ddefnyddio am awr yn unig (7) – 7%

Ydych chi’n meddwl ei bod yn syniad da i’r llywodraeth osod terfyn ar faint o amser gall plant a phobl ifanc dreulio ar apiau cyfryngau cymdeithasol?

Na (163) – 42%
Ie (117) – 30%
Dydw i ddim yn gwybod (104) – 27%

Ydych chi’n meddwl ei bod yn syniad da i’r llywodraeth osod “curfew” o 10pm ar gyfryngau cymdeithasol i blant a phobl ifanc?

Na (152) – 40%
Dydw i ddim yn gwybod (116) – 31%
Ie (108) – 29%