Toiledau Ysgol – Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru
Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma
Cyflwyniad
Yn ystod mis Mawrth 2025 gofynnon ni i blant a phobl ifanc am doiledau ysgol. Rydym yn aml yn clywed pryderon plant a phobl ifanc am doiledau ysgol.
Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.
Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoson ni fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau fel beth yw’r rheolau yn eu hysgol, sut maen nhw’n teimlo am ddefnyddio’r toiledau yn eu hysgol a sut fydden nhw’n disgrifio toiledau eu hysgol. Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.
Atebodd 997 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol. Bu 762 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 6 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 20 awdurdod lleol.
Datblygwyd y cwestiynau gan dîm staff profiadol y Comisiynydd ar sail themâu oedd wedi dod i’r amlwg mewn ymarferion ymgysylltu blaenorol gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc
Wyt ti’n hapus gyda’r toiledau/tai bach yn dy ysgol?
Nac ydw (516) – 54%
Ydw (443) – 46%
Ydy’r drysau i gyd yn cau ac yn cloi?
Ydyn (538) – 56%
Nac ydyn (420) – 44%
Ydy papur toiled/ty bach wastad ar gael?
Rhan fwyaf o’r amser (536) – 56%
Ydy (214) – 22%
Bron byth (134) – 14% Na (71) – 7%
Wyt ti’n meddwl bod y toiledau/tai bach yn lân?
Na (400) – 42%
Ddim yn ffôl (387) – 40%
Ydw (175) – 18%
Ydy’r toiledau/tai bach yn arogli’n neis?
Nac ydyn (577) – 60%
Ddim yn ffôl (305) – 32%
Ydyn (74) – 8%
Wyt ti’n gallu mynd i’r toiled/ty bach yn ystod gwersi?
Ydw (601) – 63%
Na – mae’n anodd cael caniatâd (300) – 32%
Nac ydw – maen nhw ar glo (52) – 6%
Wyt ti’n gallu golchi dy ddwylo yn y toiled/tai bach?
Ydw (701) – 73%
Fel arfer (189) – 20%
Nac ydw (66) – 7%
Ydy bwlio yn broblem yn y toiledau/tai bach?
Nac ydy (771) – 81%
Ydy (180) – 19%
Oes yna unrhywbeth arall hoffet ti ei ddweud am dy toiledau/tai bach ysgol?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Mae’r toiledau yn fudr/frwnt / anhylendid / aroglu
- Mae plant yn fêpio yn y toiledau
- Does dim sebon / wedi rhedeg allan o sebon
Pa eiriau sy’n disgrifio dy toiledau/tai bach ysgol? Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un.
Drewllyd (315) – 71%
Brwnt (297) – 67%
Blêr (291) – 66%
Ddim yn hygyrch/ddim yn hawdd i bawb eu defnyddio (116) – 26%
Hygyrch/hawdd i bawb eu defnyddio (104) – 24%
Peryglus/gwneud i ti ofni (100) – 23%
Preifat (66) – 15%
Digon o le (53) – 12%
Diogel (41) – 9%
Glân (22) – 5%
Oes yna rheolau yn dy ysgol ynglyn â defnyddio’r ty bach/toiled?
Gallwn ni eu defnyddio nhw yn ystod amser gwersi ond dim ond gydag allwedd/docyn (284) – 64%
Gallwn ni ond eu defnyddio nhw yn ystod amser cinio neu egwyl (64) – 15%
Rhywbeth arall (31) – 7%
Rydyn ni’n gallu defnyddio nhw pryd bynnag rydyn ni angen (30) – 7%
Dydyn ni ddim yn gallu eu defnyddio nhw yn ystod gwersi (30) – 7%
Gallwn ni eu defnyddio nhw yn ystod amser gwersi ond mae’n rhaid i staff fynd gyda ni (3) – 1%
Beth yw’r rheolau yn dy ysgol di?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Mae angen tocyn / caniatâd arnynt i fynd i’r toiled yn ystod gwersi
- Ni chaniateir iddynt fynd yn ystod gwersi
- Mae’n dibynnu ar yr athro/eu hymddygiad
Pa mor ddiogel wyt ti’n teimlo yn dy toiledau/tai bach ysgol?
Tipyn bach yn ddiogel (164) – 37%
Ddim yn ddiogel nac yn anniogel (142) – 32%
Tipyn bach yn anniogel (65) – 15%
Diogel iawn (35) – 8%
Yn anniogel iawn (34) – 8%
Allet ti ddweud pam?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Disgyblion yn fêpio/ysmygu yn y toiledau
- Yn teimlo’n ofnus gan ddisgyblion eraill sydd yn y toiled
- Drysau ddim yn cloi / methu cloi’r drysau oherwydd bod disgyblion yn eu torri’n fwriadol
Pa mor aml wyt ti’n defnyddio’r toiledau/tai bach yn dy ysgol?
Dim ond pan dwi rili angen (142) – 32%
Dim lot – dwi’n trio peidio eu defnyddio (90) – 20%
Dwi’n trio i beidio eu defnyddio (80) – 18% Pob dydd (65) – 15%
Dwi byth wedi eu defnyddio (33) – 7%
Dim lot – dwi ddim yn cael cyfle i fynd i’r ty bach fel arfer (27) – 6%
Arall (6) – 1%
Wyt ti’n fodlon esbonio mwy?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Defnyddo’r toiled dim ond pan fod angen
- Defnyddio’r toiled dim ond pan dwi wir angen mynd
- Dim ond unwaith neu ddwywaith y dydd byddaf yn mynd i’r toiled
- Byth
Wyt ti’n gallu cael nwyddau mislif (period products) yn yr ysgol os rwyt ti eu angen nhw?
Ydw (159) – 36%
Dyw e ddim yn berthnasol i fi (139) – 32%
Dwi ddim yn siwr (99) – 23%
Nac ydw (41) – 9%
Ble mae nwyddau mislif (period products) yn cael eu cadw?
Yn y swyddfa (44) – 29%
Mewn cwpwrdd penodol (30) – 19%
Ym mhob toiled/ty bach (29) – 19%
Mewn rhai toiledau/tai bach yn unig (27) – 17%
Gydag aelod o staff (15) – 10%
Rhywle arall (12) – 8%
Oes yna unrhywbeth arall hoffet ti ei ddweud am doiledau/tai bach ysgol? Gall hyn bod yn rywbeth da neu rywbeth gwael.
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Maen nhw’n aroglu / maen nhw’n fach / maen nhw’n anhylendid
- Nid yw’r toiledau’n lân / mae angen mwy o sebon arnynt / nid oes ganddynt bapur toiled / maen nhw’n anhrefnus
Cwestiynau i athrawon
Sut disgrifion nhw’r toiledau/tai bach?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Mae’r toiledau yn fudr / frwnt / aroglu
- Mae yna broblemau gyda’r drysau – dydyn nhw ddim yn cloi / maen nhw’n cael eu tynnu i ffwrdd
- Mae disgyblion yn fêpio yn y toiled
Beth yw’r rheolau yn eich ysgol chi a beth yw barn y plant/pobl ifanc ar y rheolau hynny?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Mae’r rheolau’n gysylltiedig ag etiquette toiledau safonol – gan gynnwys bwyd / sefyll ar doiledau / nifer y disgyblion mewn ciwbiclau (cubicles) ac edrych dros giwbiclau (cubicles) / dim fandaliaeth / dim bwlio
- Mae disgyblion angen tocyn toiled / tocyn meddygol
- Ni all disgyblion fynd i’r toiled yn y 15 munud cyntaf neu’r 15 munud olaf o’r wers
- Wedi cyfyngu y nifer o ddisgyblion sy’n gallu mynd i’r toiled yr un pryd
Sut roedd pobl ifanc yn teimlo yn defnyddio’r toiledau/tai bach yn yr ysgol?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Maen nhw’n teimlo’n anghyfforddus os yw’r toiledau yn llawn o ddisgyblion
- Maen nhw’n teimlo’n anniogel
- Mae’r toiledau yn fudr/ frwnt / aroglu
O safbwynt athro/athrawes, beth yw’r materion mwyaf sylweddol o ran toiledau/tai bach?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Mae disgyblion yn fêpio / ysmygu yn y toiledau
- Mae disgyblion yn defnyddio’r toiledau fel esgus i adael eu gwers
- Disgyblion yn ymgynnull yn y toiledau i gymdeithasu
Ydy eich ysgol wedi ffeindio system sy’n gweithio’n dda? Beth yw e?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Na, dydyn nhw ddim wedi dod o hyd i system sy’n gweithio’n dda
- Mae ganddyn nhw system ar waith, ond nid yw’n gweithio / nid yw’n cael ei ddilyn
- Mae tocyn toiled yn gweithio’n dda a bwrdd arddangos sy’n cyfyngu ar y nifer o ddisgyblion sy’n defnyddio’r toiled
Diweddglo
Mae dros hanner y plant oedran ysgol gynradd a ymatebodd ddim yn hapus â’u toiledau ysgol. Cafodd toiledau ysgol eu disgrifio’n gyson yn ‘fudr’ a’u bod yn ‘aroglu’ gan athrawon ac ymatebwyr o leoliadau cynradd ac uwchradd.
Dim ond 7% o bobl ifanc oedran uwchradd a ddywedodd eu bod yn gallu defnyddio’r toiled pryd bynnag yr oedd ei angen arnynt. Gyda bron i draean o blant oedran cynradd yn dweud nad ydynt yn gallu defnyddio toiledau ysgol yn ystod gwersi gan ei bod hi’n anodd i gael caniatâd. Dywedodd ymatebwyr oedran uwchradd yn bennaf eu bod yn gallu defnyddio toiledau yn ystod gwersi gydag allwedd/docyn (64%), ond dywedodd 15% eu bod yn gallu eu defnyddio yn ystod egwyl neu amser cinio.
Mewn perthynas â diogelwch, fe wnaeth plant oedran cynradd, plant oedran uwchradd ac athrawon gwneud sylwadau ar y defnydd o fêps mewn toiledau. Roedd 19% o blant oedran cynradd hefyd yn rhannu bod bwlio yn broblem yn eu toiledau ysgol.
Mae’r canlyniadau’n tynnu sylw at yr angen am waith parhaus i fynd i’r afael ag amgylcheddau toiledau ysgol i hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar hawliau sy’n sicrhau diogelwch plant a phobl ifanc ac yn creu amgylcheddau iach sy’n cefnogi gofal personol.
Dros 20 mlynedd yn ôl, cyhoeddodd swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yr adroddiad, ‘Codi’r Clawr’. Wrth gymharu canfyddiadau’r Mater Misol hwn â chanfyddiadau’r adroddiad, mae’r canlyniadau’n debyg iawn, gan amlygu’r diffyg cynnydd yn y maes hwn.
O ganlyniad i’r canfyddiadau hyn, byddwn yn gwneud gwaith ymgysylltu pellach gyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru i ddeall ymhellach eu profiadau o doiledau ysgol. Byddwn yn cyhoeddi diweddariad i’r adroddiad hwn unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.