Beth rydyn ni wedi’i glywed a beth mae hynny’n ei ddweud wrthyn ni
Mae ysgolion yn cyflawni rôl sylfaenol a ffurfiannol ar gyfer plant a phobl ifanc. Clywodd ein Harolwg Cenedlaethol ‘Gobeithion i Gymru’, a gynhaliwyd yn 2022, gan fwy na 10,000 o blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ynghylch eu profiadau a’u barn am feysydd allweddol sy’n berthnasol i fywydau plant yng Nghymru, gan gynnwys eu meddyliau ynghylch yr ysgol ac addysg.
Pan fuon ni’n holi am iechyd a hapusrwydd, fe glywson ni fod:
- Plant 7-11 oed yn cysylltu hapusrwydd â threulio amser gyda theulu a ffrindiau a mynd i’r ysgol;
- Plant 12-18 oed yn dweud wrthyn ni eu bod yn mwynhau’r ysgol; a bod
- Plant ag anableddau dysgu dwys a lluosog (PMLD) yn cyfeirio at fynd i’r ysgol amlaf, gyda gêmau a hobïau a threulio amser gyda ffrindiau’n dilyn fel gweithgareddau sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus.
Pan fuon ni’n holi am bryderon a phethau oedd yn destun consyrn, fe glywson ni fod:
- Plant 7-11 oed yn pryderu amlaf am ein planed a’r newid yn yr hinsawdd, gyda phrofion ac arholiadau a chael swydd ar ôl tyfu i fyny yn dilyn
- Y pryderon a nodir amlaf gan bobl ifanc 12-18 oed yw arholiadau a chyflogaeth yn y dyfodol.
- Nododd pobl ifanc 12-18 oed hefyd effaith negyddol COVID-19 ar eu haddysg, eu hiechyd meddwl a’u llesiant a’u hiechyd corfforol.
- Mynegodd rhieni a gofalwyr bryderon yn aml am y costau sy’n gysylltiedig â’r ysgol. Fe wnaethon nhw nodi hefyd effeithiau negyddol Covid-19 ar addysg plant.
- Mynegodd gweithwyr proffesiynol bryderon yn aml am y costau sy’n gysylltiedig ag ysgolion
Mae’r safbwyntiau hyn yn adlewyrchu’r ystod o brofiadau mae plant yn eu cael wrth fynd i’r ysgol, ond maen nhw hefyd yn ein hatgoffa am yr heriau mae rhai plant a’u teuluoedd yn eu hwynebu mewn perthynas â’r ysgol, gan gynnwys y costau cysylltiedig â bywyd yr ysgol a phwysau arholiadau ac asesiadau.
Beth rydyn ni wedi’i Glywed gan Eraill am Ymddygiad mewn Ysgolion yng Nghymru
Adroddiad Thematig Estyn
Mae adroddiad thematig Estyn ar ymddygiad mewn ysgolion uwchradd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn amlygu’r heriau mae ysgolion uwchradd yn eu hwynebu mewn perthynas ag ymddygiad gwael, yn ogystal ag amlygu peth arfer effeithiol.
Mae’r adroddiad yn nodi nifer o resymau pam gallai disgyblion arddangos ymddygiad heriol mewn ysgolion, gan gynnwys ansefydlogrwydd y teulu, pwysau sosio-economaidd, problemau iechyd meddwl ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n nodi rhai o’r problemau ymddygiad cyffredin a welir, gan gynnwys rhyw fân aflonyddu yn gyson, gweithredoedd heriol, ac i raddau llai, gwrthdaro corfforol. Amlygir hefyd ffactorau allanol, gan gynnwys dylanwad cyfryngau cymdeithasol a materion cymunedol fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. Datgelodd y dystiolaeth a gasglwyd gan staff a disgyblion bryderon am aflonyddu lefel isel mewn gwersi, ymddygiad gwael yn y coridorau, camddefnyddio ffonau symudol, a gorbryder cynyddol ymhlith disgyblion. Mae’r arolygiaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd gorfodi polisi yn gyson, perthnasoedd cefnogol, a chefnogaeth allanol effeithiol wrth ymateb i ymddygiad heriol. –
Dyma rai o’r sylwadau a gasglodd Estyn gan ddisgyblion wrth wneud y gwaith hwn:
“Ar ôl y cyfnodau clo – roedd yn anodd dychwelyd i’r ysgol. Roeddwn i’n teimlo bod rhaid i fi ffeindio fy lle eto gyda ffrindiau. Roedd fy ymddygiad gwael yn ymgais i ‘ffitio mewn’.”
Mae’r adroddiad yn mynd ymlaen i nodi:
“Dywedodd ambell ddisgybl hŷn fod ailaddasu i fywyd yn yr ysgol wedi’r pandemig yn heriol, yn arbennig meithrin perthynas â chyfoedion a staff. Nodwyd hefyd fod ymddygiad yn wahanol i’r sefyllfa cyn y pandemig. Rhai enghreifftiau a roddwyd oedd ‘colli limpyn’ neu golli rheolaeth ar eu hemosiynau yn hytrach na chyfaddef eu bod yn cael trafferth gyda’r gwaith, dangos eu hunain o flaen eu cyfoedion er mwyn bod yn boblogaidd a herio oedolion oherwydd eu bod wedi arfer cael eu ffordd eu hun a dilyn eu trefn eu hun am gyfnod hir.”
Soniodd arweinwyr a staff ysgolion fod dirywiad yn ymddygiad rhai o’u disgyblion ers cyfnod y pandemig a nodi’r cynnydd cenedlaethol yn nifer y gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol. Mae’r adroddiad yn nodi bod eu grŵp penaethiaid cyfeiriadol a staff wedi sôn, yn ystod arolygiadau ac ymweliadau dilynol, am ddirywiad cyffredinol yn ymddygiad disgyblion, yn enwedig ers y pandemig. Mae adroddiad Estyn yn argymell bod ysgolion yn cryfhau eu systemau rheoli ymddygiad trwy gynnwys yr holl randdeiliaid, yn ysgolion bwydo, rhieni a gofalwyr, llywodraethwyr ac awdurdodau lleol, i ddatblygu polisi a phrosesau clir a chyson; y dylai staff dderbyn hyfforddiant penodol ar reoli ymddygiad sy’n aflonyddu, yn enwedig yng nghyswllt dysgwyr bregus; y dylai gwasanaethau awdurdod lleol ddarparu cefnogaeth amserol, rhannu gwybodaeth berthnasol am anghenion a phrofiadau disgyblion yn effeithlon os bydd disgyblion yn symud o fewn neu’r tu hwnt i’r awdurdod lleol, a mabwysiadu dull cyson o ymdrin ag ymgysylltiad teuluol. Anogir Llywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau rheoli ymddygiad cenedlaethol a lansio ymgyrch genedlaethol ar ymddygiad cadarnhaol. Maen nhw hefyd yn argymell y dylai rhaglenni addysgu a sefydlu cychwynnol athrawon gynnwys rhaglen rheoli ymddygiad gynhwysfawr. Ar ben hynny mae argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru wneud gwaith ymchwil ar draws ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed i nodi tueddiadau ymddygiad a darparu canllawiau wedi’u diweddaru i ysgolion ar y gefnogaeth fwyaf effeithiol i helpu i wella ymddygiad.
Yn eu hymateb i argymhellion Estyn, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y materion a nodwyd, ac amlygwyd uwch-gynhadledd Mai 2025 fel “sbardun cychwynnol” i archwilio’r dull o ymdrin â’r materion hyn.
Persbectif rhyngwladol
Yn rhyngwladol, mae gwaith diweddar a wnaed gan UNICEF ar effaith Covid-19 mewn gwledydd incwm uchel yn dangos dirywiad sylweddol yng nghyrhaeddiad addysgol plant, a’u hiechyd corff a meddwl, a chaiff hynny ei egluro yn nhermau bod yn fwy bregus yn wyneb digwyddiadau byd-eang a galwadau i lywodraethau a rhanddeiliaid allweddol gefnogi datblygiad sgiliau, darparu gwell gwasanaethau arbenigol, a hybu mentrau llesiant.
Er bod y diwrnod ysgol yn fras wedi dychwelyd i’r un patrwm â chyn pandemig Covid-19, mae’n eglur bod effaith y cyfyngiadau a’r heriau a wynebwyd gan bobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod hwnnw yn dal i fwrw cysgod sylweddol dros eu bywydau beunyddiol nawr. Allwn ni ddim fforddio anwybyddu na thanbrisio hyn os ydyn ni o ddifri ynghylch mynd i’r afael â rhai o’r heriau cysylltiedig ag ymddygiad mewn ysgolion.
Persbectif academaidd
Cynhyrchwyd adroddiad arall nodedig ar y pwnc hwn gan Brifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru – Ymddygiad sy’n herio ac yn amharu ar ysgolion ledled Cymru (Mai 2025)
Dyma rai o brif ganfyddiadau’r gwaith diweddar hwn:
- Soniodd athrawon fod cynnydd amlwg yn amlder a dwysedd ymddygiad heriol, a bod y pandemig wedi gwaethygu hynny;
- Yn ogystal â phryderon ynghylch eu hymddygiad, mae llawer o ddysgwyr yn arddangos lefelau uwch o orbryder a thrallod emosiynol, gan adlewyrchu heriau iechyd meddwl ehangach wedi’r pandemig
- Thema gyson oedd yr angen am ddull dibynadwy o feithrin amgylchedd cefnogol, cynhwysol
- Er bod enghreifftiau o arfer da yn bodoli, mae’r adroddiad yn nodi amrywioldeb y gweithredu a’r canfyddiadau, ac yn cyfeirio at yr angen am ddiweddaru’r canllawiau, gwella’r dysgu proffesiynol, a chydweithio agosach rhwng ysgolion, rhieni, llais y dysgwr a llunwyr polisi.
Gwaith arolwg undeb athrawon
Ceir cipolwg pwysig ar bersbectif athrawon mewn data a gyhoeddwyd gan yr undeb athrawon, NASUWT Cymru, ym mis Mawrth 2025. Nodwyd yma fod digwyddiadau treisgar mewn ysgolion wedi mwy na dyblu yn ystod y tair blynedd diwethaf; y byddai llai na hanner yr athrawon a gafodd gyfweliad yn ymyrryd wrth weld disgyblion yn ymladd, rhag ofn cael eu dal mewn sefyllfa amddiffyn plant; a dywedodd 55% o’r rhai a gafodd gyfweliad fod sarhad llafar a chamdriniaeth gorfforol gan ddisgyblion yn gwneud iddyn nhw ystyried rhoi’r gorau i fod yn athrawon. Wrth siarad am eu harolwg, dywedodd swyddog cenedlaethol NASUWT:
“Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol. Mae’n rhaid diwygio system ysgolion Cymru i adlewyrchu anghenion mwyfwy cymhleth y disgyblion. Mae angen mwy o gyfleusterau addysg arbenigol, ac mae ar ysgolion prif ffrwd angen adnoddau a chyllid sylweddol i roi polisïau ymddygiad cadarn ar waith a mwy o gefnogaeth lefel is i ddisgyblion mae hyn yn effeithio arnynt.”
Uwch-gynhadledd Ymddygiad Genedlaethol Llywodraeth Cymru
Cynhaliwyd yr uwch-gynhadledd hon yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, ac roedd yn dod ag ystod o addysgwyr a rhanddeiliaid ynghyd o bob rhan o Gymru. Clywsom am y canlynol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
- Hyd a lled ac ystod y problemau cymdeithasol a welir mewn ystafelloedd dosbarth a’u heffaith ar ddysgwyr ac addysgwyr
- Yr angen am edrych ar achosion ymddygiad gwael a’r angen am gefnogi plant a’u teuluoedd
- Yr angen am fwy o weithio cydlynus
- Yr angen am fwy o gysondeb wrth gasglu data
- Ymrwymiad i weithio gyda phlant a phobl ifanc, oherwydd eu bod hwythau’n dioddef
Fe glywson ni’r canlynol gan ddysgwyr:
- Bod ymddygiad gwael yn cael ei hybu ar y cyfryngau cymdeithasol
- Eu bod yn gweld eu cyfoedion yn bod yn amharchus
- Bod rhai ddim yn ddigon ffodus i gael cefnogaeth gartref
- Trafferthion pwysau cyfoedion
- Trafferthionon ynghylch maint dosbarthiadau – sut mae hyn yn annheg i athrawon yn ogystal â dysgwyr
- Effaith fêpio
- Agweddau bechgyn at athrawesau, gyda rhai yn sôn bod ymddygiad bechgyn at athrawon benyw yn waeth na’u hagwedd at athrawon gwryw
- Diffyg parch at addysg
Fe glywson ni gan Estyn, a ddarparodd uchafbwyntiau o’u gwaith diweddar (a geir mewn rhan arall o’r papur hwn), ac fe glywson ni gan yr Athro Carl Hughes, o Brifysgol Bangor, a soniodd am y canlynol:
- Yr angen am ddull gweithredu ysgol gyfan a seiliwyd ar werth
- Ymyriad wedi’i deilwra i rai dysgwyr
- Angen buddsoddi mewn ymchwil effeithiolrwydd yng Nghymru
- Angen sicrhau bod ysgolion yn amgylcheddau meithringar, ac yn darparu’r pethau mae ar blant eu hangen i ffynnu
- Pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol
- Ffocws ar ysgolion bro
- Sut gallai cyfeirio at ‘ymddygiad’ fod yn gorsymleiddio’r broblem
Materion ehangach i’w hystyried
Mae adroddiad thematig Estyn yn cyfeirio at y data ehangach a’r dystiolaeth sy’n bodoli, a ddylai lywio ein dull o ymdrin â heriau cysylltiedig ag ymddygiad disgyblion yn yr ysgol, a’n dealltwriaeth ohonynt. Pwynt allweddol yn eu hadroddiad yw bod ‘Ymddygiad yn aml yn ddull cyfathrebu, ac mae’n gallu bod yn symptom o faterion eraill mae person ifanc yn eu hwynebu o dan yr wyneb’. Mae’n mynd ymlaen i gyfeirio at setiau data allweddol sy’n dangos i ni effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACES), profiad disgyblion a addysgir mewn mannau heblaw’r ysgol (EOTAS), a’r cynnydd mewn gwaharddiadau o’r ysgol, gydag effeithiau anghymesur ar y rhai sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, disgyblion ag ADY, a rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae’r holl feysydd hyn yn arwyddocaol ynddynt eu hunain, ac mae angen eu hystyried yn benodol o ran eu heffaith ar ymddygiad disgyblion ar lefel ehangach.
Canllawiau Cyfredol
Mae Estyn wedi nodi ‘nad oes canllawiau perthnasol, ymarferol a chyfredol i gefnogi ysgolion, disgyblion neu eu teuluoedd wrth ddelio ag ymddygiad a hybu ymddygiad cadarnhaol.’
Dyma’r canllawiau cyfredol sydd ar gael i ysgolion gan Lywodraeth Cymru ynghylch ymddygiad:
- Rheoli ymddygiad yn y dosbarth: canllawiau i ysgolion cynradd (diweddarwyd ddiwethaf ym mis Tachwedd 2012)
- Rheoli ymddygiad yn y dosbarth: canllawiau i ysgolion uwchradd (diweddarwyd ddiwethaf ym mis Tachwedd 2012)
- Gwaharddiadau o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (diweddarwyd ddiwethaf ym mis Ebrill 2024)
- Gwahardd o’r ysgol: canllawiau i ddisgyblion (Tachwedd 2019)
- Gwaharddiadau o’r ysgol: canllawiau ar gyfer cyfarfodydd
- Côd ymddygiad wrth deithio: canllawiau (rydyn ni’n deall bod gwaith diweddaru’n digwydd ar y rhain ar hyn o bryd)
- Côd ymddygiad wrth deithio: canllawiau i rieni
- Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (Tachwedd 2019)
Mae fframwaith hefyd ar gyfer gwreiddio dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol (a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2021 gan Lywodraeth Cymru). Bwriad y canllawiau statudol hyn yw cefnogi ysgolion a lleoliadau addysg i adolygu eu tirlun llesiant eu hunain a datblygu cynlluniau gweithredu. Mae hyn yn rhan o Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru, sy’n nodi gweledigaeth y Llywodraeth, sef creu amgylchedd cynhwysol, diddorol, lle mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn barod i ddysgu.
Ein Galwadau
Os ydyn ni’n wir am gyflawni ein huchelgais, sef Cymru sy’n wlad i bob plentyn, lle caiff eu hawliau eu cynnal a lle maen nhw’n derbyn popeth mae ganddyn nhw hawl i’w gael, rydyn ni’n gweld bod angen cymryd y camau canlynol:
1. Mae angen ymarferiad gwrando cenedlaethol i glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc ar y pwnc hwn. Mae llawer o’r drafodaeth hyd yma wedi troi o amgylch y lleiafrif cymharol fach o ddysgwyr y mae eu hymddygiad yn gymhleth ac yn annerbyniol. Mae pawb ohonom yn cytuno y dylai ein sefydliadau addysg fod yn brofiad dysgu diogel i bawb, ond mae ymddygiad gwael yn amharu ar y dysgu i’r mwyafrif llethol. Nid aed ati’n systematig i gasglu tystiolaeth gan bob dysgwr ar y mater hwn – y rhai sy’n arddangos ymddygiad mwy cymhleth, a’r rhai yr effeithir ar eu dysgu. Fel cenedl sy’n ymfalchïo mewn cynnal hawliau plant, rydyn ni’n galw am ymarferiad gwrando ar draws y genedl gyda phob dysgwr, ac i’r safbwyntiau hynny fod yn rhan o ddatrysiadau fframio. Byddai hyn yn cefnogi argymhellion Unicef o Gerdyn Adroddiad 19: Llesiant Plant mewn Byd Anrhagweladwy, a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
2. Mae’n rhaid i ni weld ymddygiad fel symptom o broblem, yn hytrach na’r broblem ei hun, ac mae’n rhaid cydnabod ymddygiad cymhleth fel mater amlweddog sydd ag ystod o achosion gwaelodol. O ganlyniad, mae’n rhaid ystyried datrysiadau’n weithredol trwy strwythurau sy’n cynnwys byrddau partneriaeth rhanbarthol, a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac fel rhan o strategaethau eraill cenedlaethol parhaus, gan gynnwys Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru, y Strategaeth Iechyd Meddwl, y Strategaeth Gwaith Ieuenctid, a’r gwaith parhaol i werthuso Deddf ADY. Ymhellach, mae dull gweithredu cyfannol yn hanfodol – nid oes modd fframio hyn fel problem addysgol yn unig i ysgolion ei datrys ar eu pennau eu hunain, yn hytrach, mae’n her i’r gymdeithas gyfan.
Yn sgîl hyn:
2a. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol strwythurau gwaith ieuenctid yng Nghymru yn fwy eglur, gan gynnwys eu disgwyliadau o ran cysylltiadau gweithwyr ieuenctid â sefydliadau addysg. Dylai hefyd ddarparu manylion trosolwg ar waith ieuenctid yng Nghymru wedi i’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim gwblhau ei dymor o wasanaeth yn yr hydref.
2b. Dylid cryfhau’r gefnogaeth i blant a phobl ifanc gan ymwelwyr iechyd. Yn ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf, nodwyd yn 2022 fod 62,000 cyswllt gan ymwelwyr iechyd heb ddigwydd, er y dylsen nhw. Er bod data diweddaraf LlC yn amlygu rhywfaint o gynnydd yn y cyswllt, mae Cymru yn dal ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig o ran y cysylltiadau a gwblhawyd ar adegau cymaradwy. Mae ein hargymhelliad ynghylch hyn yn parhau heb ei newid: dylai Llywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd Rhaglen Plentyn Iach Cymru oddi mewn i Dymor cyfredol y Senedd. Dylai’r adolygiad gyflwyno disgwyliadau clir ynghylch amlder/nifer yr achosion o gyswllt; a sut olwg fyddai ar unrhyw ddarpariaeth amgen a chefnogaeth a gynigir; yn ogystal â digideiddio cofnodion ymwelwyr iechyd i wella effeithlonrwydd.
2c. Dylai gwerthusiad Llywodraeth Cymru o weithrediad y Ddeddf ADY gynnwys llais a phrofiadau plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn modd ystyrlon, gan gynnwys archwilio unrhyw effaith ar eu hymddygiad os na roddir sylw i’w hanghenion dysgu ychwanegol.
3. Mae angen data gwell arnom i ddeall y broblem – mae system genedlaethol o gasglu data, fel bod gan bob asiantaeth y gallu i ddeall hyd a lled y broblem, yn hanfodol. Er ein bod yn cydnabod pryderon rhai pobl, y gallai data o’r fath ddatblygu’n risg o ran enw da ysgolion, mae Estyn, yn eu hadroddiad ‘Meithrin Parch o’r Ddeutu’, yn nodi “…gan nad oes system genedlaethol yn bodoli ar hyn o bryd i gasglu data ynghylch achosion o ymddygiad gwael mewn ysgolion, mae’n dal yn anodd deall hyd a lled y broblem yn llawn.”
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried mabwysiadu dull gweithredu tebyg i’r hyn a geir yn Arolygon Ymddygiad Cenedlaethol Adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a dylai edrych ar arfer diddorol o wledydd sy’n perfformio’n eithriadol o dda ar Gerdyn Adroddiad Unicef, lle mesurir llesiant meddwl, iechyd corfforol a sgiliau plant.
4. Rydyn ni’n galw ar fwrdd cyflwyno’r dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a iechyd meddwl, a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, i ystyried yn ffurfiol ac ymateb i’r themâu o uwch-gynhadledd Llywodraeth Cymru ar ymddygiad, er mwyn deall yn well sut mae llesiant emosiynol a iechyd meddwl yn effeithio ar ymddygiad cymhleth, cyn ymateb i hynny.
Byddwn ni’n parhau i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar y materion hyn, gan sicrhau bod y canlyniadau a godwyd yn sgîl yr Uwch-gynhadledd a’r cynigion a amlinellir yn y papur hwn yn derbyn sylw dilynol fel mater o flaenoriaeth i blant.