Iechyd y Geg – Sut wyt ti’n gofalu am dy ddannedd? Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma

Cyflwyniad

Yn ystod mis Ebrill 2025 gofynnon ni i blant a phobl ifanc am iechyd y geg a sut mae nhw’n gofalu am eu dannedd.

Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.

Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoson ni fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau fel ydyn nhw wedi gweld y deintydd ers dechrau’r flwyddyn ysgol a pha fwyd a diod y dylen nhw fod yn fwy gofalus gyda o ran eu dannedd. Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.

Atebodd 734 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol. Bu 198 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 4 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 19 awdurdod lleol.

Datblygwyd y cwestiynau gan dîm y Comisiynydd gyda chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc

Wyt ti wedi bod i’r deintydd ers dechrau’r flwyddyn ysgol?

Ydw (323) – 66%

Nac ydw (94) – 19%

Dwi ddim yn gwybod (71) – 15%

Pa mor aml wyt ti’n brwsio dy ddannedd?

Dwywaith y diwrnod (347) – 71%

Unwaith y diwrnod (66) – 13%

Tair gwaith y diwrnod (42) – 9%

Mwy na tair gwaith y diwrnod (20) – 4%

Llai nag unwaith y diwrnod (13) – 3%

Byth (3) – 1%

Pryd wyt ti’n brwsio dy ddannedd? Mae hawl gennyt ti ddewis mwy nag un.

Cyn i fi fynd i’r gwely (367) – 75%

Ar ôl brecwast (324) – 66%

Cyn brecwast (161) – 33%

Ar ôl swper/tê (68) – 14%

Rhywbryd arall (27) – 6%

Cyn swper/tê (17) – 4%

Beth wyt ti’n gwneud ar ôl i ti orffen brwsio dy ddannedd?

Gadael y past dannedd ar dy ddannedd (233)

Golchi dy geg mas gyda dwr (226)

Ffrwythau (ffres/mewn tin/wedi rhewi/wedi sychu)  

Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (141) – 29% 

Dwywaith y diwrnod (124) – 25% 

Unwaith y diwrnod (91) – 19% 

Tair gwaith y diwrnod (80) – 16% 

Bron byth neu fyth (29) – 6% 

Llai nag unwaith y diwrnod (27) – 6% 

Cacennau neu fisgedi  

Unwaith y diwrnod (147) – 30% 

Llai nag unwaith y diwrnod (117) – 24% 

Dwywaith y diwrnod (93) – 19% 

Bron byth neu fyth (75) – 15% 

Tair gwaith y diwrnod (28) – 6% 

Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (26) – 5% 

Losiynau neu siocled  

Unwaith y diwrnod (166) – 34% 

Dwywaith y diwrnod (101) – 21% 

Llai nag unwaith y diwrnod (100) – 20% 

Tair gwaith y diwrnod (54) – 11% 

Bron byth neu fyth (35) – 7% 

Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (34) – 7% 

Diet coke neu ddiodydd eraill heb siwgr  

Bron byth neu fyth (143) – 29% 

Unwaith y diwrnod (110) – 23% 

Llai nag unwaith y diwrnod (105) – 22% 

Dwywaith y diwrnod (67) – 14% 

Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (36) – 7% 

Tair gwaith y diwrnod (26) – 5%

Coke neu ddiodydd eraill fel squash gyda siwgr  

Unwaith y diwrnod (126) – 26% 

Bron byth neu fyth (118) – 25% 

Llai nag unwaith y diwrnod (87) – 18% 

Dwywaith y diwrnod (78) – 16% 

Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (40) – 8% 

Tair gwaith y diwrnod (33) – 7% 

Diodydd ynni (energy drinks) fel lucozade  

Bron byth neu fyth (287) – 59% 

Llai nag unwaith y diwrnod (84) – 17% 

Unwaith y diwrnod (64) – 13% 

Dwywaith y diwrnod (26) – 5% 

Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (15) – 3%  

Tair gwaith y diwrnod (12) – 3% 

Dwr (o’r tap neu botel)  

Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (237) – 49% 

Tair gwaith y diwrnod (85) – 17% 

Dwywaith y diwrnod (75) – 15% 

Unwaith y diwrnod (47) – 10% 

Bron byth neu fyth (25) – 5% 

Llai nag unwaith y diwrnod (20) – 4% 

Sudd ffrwythau neu smwddi  

Bron byth neu fyth (124) – 26% 

Unwaith y diwrnod (114) – 23% 

Llai nag unwaith y diwrnod (101) – 21% 

Dwywaith y diwrnod (78) – 16% 

Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (39) – 8% 

Tair gwaith y diwrnod (31) – 6% 

Wyt ti’n yfed neu fwyta yn y nôs ar ôl i ti frwsio dy ddannedd?  

Nac ydw (233) – 48% 

Weithiau (149) – 31% 

Ydw (73) – 15% 

Dwi ddim yn gwybod (34) – 7% 

Diweddglo

Mynediad at ddeintyddion  

Arferion iechyd y geg  

  • Mae 80% o blant sy’n cymryd rhan yn ein holiadur yn brwsio eu dannedd o leiaf ddwywaith y dydd, er bod 13% yn dweud eu bod dim ond yn brwsio eu dannedd unwaith y dydd.  
  • Dywedodd bron i hanner (49%) eu bod yn rinsio eu ceg â dŵr ar ôl brwsio, er nad yw rinsio yn neges allweddol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru  
  • Er bod nifer uchel o blant yn dweud eu bod yn brwsio eu dannedd ddwywaith y dydd, mae canlyniadau ein holidaur ciplun yn awgrymu bod negeseuon parhaus ynghylch arferion iach ar gyfer iechyd y geg yn bwysig i blant a theuluoedd. 

Rydym wedi rhannu’r canfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru fel y gallant eu hystyried fel rhan o’u hymgynghoriad ar Ddiwygio gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG.  

Hefyd rydym wedi rhannu’r canfyddiadau gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.