Etholiadau yng Nghymru (Mai 2026) – Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma

Cyflwyniad

Yn ystod mis Mai 2025 gofynnon ni i blant a phobl ifanc am yr etholiad fydd yn cael ei redeg yma yn Nghymru, mis Mai flwyddyn nesaf.

Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau.

Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol. Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoson ni fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau fel beth maen nhw’n gwybod yn barod am wleidyddiaeth a’r etholiad, ydyn nhw erioed wedi gweld neu glywed gwyobdaeth gan bleidiau gwleidyddol a beth maen nhw’n gwybod am y Senedd a’r bobl sy’n gyfrifol am Gymru nawr. Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.

Atebodd 800 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 7 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 20 awdurdod lleol.

Datblygwyd y cwestiynau gan dîm staff profiadol y Comisiynydd ar sail themâu oedd wedi dod i’r amlwg mewn ymarferion ymgysylltu blaenorol gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc

Ymatebion Ysgolion Uwchradd

Bydd etholiad Senedd Cymru blwyddyn nesaf. Ble fyddet ti’n mynd i gael gwybodaeth am yr etholiad hwn? Mae hawl gennyt ti ddewis mwy nag un ateb.

Gofyn i riant/gofalwr/rhywun o’r teulu (112) 56%

Gofyn i athro yn yr ysgol/coleg (79) – 39%

Siarad gyda ffrindiau (70) – 35%

Edrych am wybodaeth ar y wê (68) – 34%

Edrych ar wefan Llywodraeth Cymru (50) – 25%

Newyddion teledu neu radio (44) – 22%

Cadw llygaid mas am wybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol e.e. TikTok, X, YouTube (38) – 19%

Does dim diddordeb gen i yn yr etholiad (36) – 18%

Edrych ar wefan neu broffil cymdeithasol plaid gwleidyddol (28) – 14%

Edrych mewn papurau newydd neu wefannau newyddion am wybodaeth (22) – 11%

Siarad gyda rhywun sy’n sefyll yn yr etholiad (13) 7%

Rhywbeth arall (8) – 4%

Sut hoffet ti ddysgu am yr hyn y mae gwleidyddion (politicians) eisiau ei newid yng Nghymru? Mae hawl gennyt ti ddewis mwy nag un ateb.

Cyfryngau cymdeithasol (yn cynnwys fideos) (117) – 59%

Gwybodaeth ar eu gwefannau (69) – 35%

Gwleidyddion yn dod i’ch ysgol neu goleg (69) – 35%

Llyfrynnau (33) – 17%

Does dim diddordeb gen i mewn beth mae gwleidyddion eisiau newid yng Nghymru (33) – 17%

Taflenni trwy eich blwch llythyrau (31) – 16%

Rhywbeth arall (4) – 2%

Beth hoffet ti ei wybod ganddyn nhw? Mae hawl gennyt ti ddewis mwy nag un ateb.

Beth fydden nhw’n ei wneud pe baen nhw’n rhedeg Cymru (153) – 77%

Beth fydden nhw’n ei wneud i bobl ifanc (133) – 67%

Beth fydden nhw’n ei wneud i bobl yn dy ardal leol (98) – 49%

Rhywbeth arall (9) – 5%

Pa gyngor sydd gennyt ti i wleidyddion wrth iddyn nhw greu pethau i bobl ifanc i wylio neu ddarllen?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Gwneud e’n ddiddorol / hwyl
  • Gwneud pethau’n hawdd eu deall
  • Polisïau a chynnwys sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc/sy’n berthnasol i bobl ifanc

Pa ddatganiadau wyt ti’n meddwl sy’n wir? Dewisia pob un rwyt ti’n meddwl sy’n wir.

Mae pobl yn gallu pleidleisio arlein mewn etholiad Senedd (113) – 62%

Rwyt ti’n gallu mynd i unrhyw orsaf pleidleisio (86) – 47%

Mae’n rhaid i ti gael pasbort i gofrestru i bleidleisio (69) – 38%

Rwyt ti’n gallu cofrestru i bleidleisio mewn etholiad ar ddiwrnod yr etholiad (63) – 35%

Os wyt ti ar wyliau neu’n gweithio ar ddiwrnod etholiad rwyt ti’n gallu cael pleidlais bost (60) – 33%

Mae’n rhaid i ti gymryd dy gerdyn pleidleisio gyda ti pan rwyt ti’n pleidleisio (59) – 32%

Yng Nghymru rwyt ti’n gallu cofrestru i bleidleisio pan rwyt ti’n 14 (51) – 28%

Os nad wyt ti’n gallu pleidleisio dy hun, rwyt ti’n gallu dewis rhywun arall i bleidleisio ar dy ran (41) – 23%

Os dwyt ti ddim yn pleidleisio mewn etholiad byddet ti’n cael dirwy (fine) (9) – 5%

Er nad wyt ti wedi bod yn ddigon hen i bleidleisio eto, wyt ti erioed wedi mynd i orsaf bleidleisio gyda rhiant, gofalwr neu aelod o’r teulu pan wnaethon nhw bleidleisio mewn etholiad?

Nac ydw (105) – 55%

Ydw (58) – 30%

Dwi ddim yn siwr (29) – 15%

Wyt ti wedi gwneud unrhyw rhai o’r pethau yma dros y 12 mis diwethaf? Mae hawl gennyt ti ddewis mwy nag un ateb.

Dim o’r rhain (75) – 40%

Wedi bod yn rhan o dîm gweithredu neu gyngor ysgol (45) – 24%

Arwyddo deiseb (sign a petition) (34) – 18%

Cytuno gyda neu hoffi neges gwleidyddol gan ddylanwadwr (influencer) (30) – 16%

Dwi ddim yn gwybod (29) – 16%

Prynu – neu wedi osgoi prynu – unrhywbeth oherwydd rhesymau gwleidyddol neu rhesymau moesegol (20) – 11%

Cyfrannu at drafodaeth neu ymgyrch arlein neu ar gyfryngau cymdeithasol (17) – 9%

Cysylltu â gwleidydd, swyddog llywodraeth neu lywodraeth leol ynglŷn â mater a oedd yn peri gofid i ti (12) – 6%

Postio ar gyfryngau cymdeithasol am fater sydd wedi dy boeni (12) – 6%

Cymryd rhan mewn protest (6) – 3%

Wyt ti’n gwybod pwy yw’r person yma?

Nac ydw (186) – 92%

Ydw (17) – 8%

Yna gofynnwyd i’r bobl ifanc a atebodd ‘ydw’ os allent enwi’r person yn y llun.

Roedd 9 o’r 14 o bobl ifanc a atebodd y cwestiwn dilynol yn gallu enwi Prif Weinidog Cymru.

Wyt ti’n gwybod pwy yw’r person yma?

Nac ydw (103) – 51%

Ydw (100) – 49%

Yna gofynnwyd i’r bobl ifanc a atebodd ‘ydw’ os allent enwi’r person yn y llun.

Roedd 82 o’r 87 o bobl ifanc a atebodd y cwestiwn dilynol yn gallu enwi’r Prif Weinidog.

Atebion Oedran Cynradd

Wyt ti’n gwybod pa adeilad yw hwn?

Ydw (225) – 39%

Nac ydw (204) – 36%

Ddim yn siwr (143) – 25%

Yna gofynnwyd i blant a atebodd ‘ydw’ os allent enwi’r adeilad.

Roedd 181 o’r 197 o blant a atebodd y cwestiwn dilynol yn gallu adnabod yr adeilad yn gywir.

Y Senedd yw’r adeilad. Ble wyt ti’n meddwl yw’r Senedd?

Bae Caerdydd (429) – 77%

Port Talbot (42) – 8%

Y Drenewydd (42) – 8%

Ynys Môn (26) – 5%

Rhyl (20) – 4%

Wyt ti’n gwybod pwy yw’r person yma?

Nac ydw (489) – 85%

Ydw (89) – 15%

Yna gofynnwyd i blant a atebodd ‘ydw’ o allent enwi’r person yn y llun.

Roedd 57 o’r 82 o blant a atebodd y cwestiwn dilynol yn gallu enwi Prif Weinidog Cymru.

Wyt ti’n gwybod pwy yw’r person yma?

Nac ydw (301) – 52%

Ydw (277) – 48%

Yna gofynnwyd i blant a atebodd ‘ydw’ os allent enwi’r person yn y llun.

Roedd 240 o’r 254 o blant a atebodd y cwestiwn dilynol yn gallu enwi’r Prif Weinidog.

Blwyddyn nesaf mae etholiad yng Nghymru. Bydd cyfle i bobl dros 16 oed bleidleisio ac i ddewis pwy maen nhw eisiau i redeg Cymru. Maen nhw’n gallu pleidleisio trwy’r post neu mewn gorsaf bleidleisio.

Wyt ti erioed wedi bod mewn gorsaf bleidleisio neu wedi gweld dy deulu yn pleidleisio drwy’r post?

Ydw – dwi wedi gweld nhw’n pleidleisio trwy’r post (235) – 41%

Na (213) – 37%

Ydw – dwi wedi bod i orsaf pleidleisio (125) – 22%

Wyt ti’n gwylio, darllen, neu yn gwrando ar y newyddion? Gallai hyn fod trwy raglenni teledu fel Newyddion Ni neu Newsround, cylchgronnau newyddion, papurau newydd, neu newyddion arlein.

Ydw, yn y ysgol (394)

Ydw, adref (198)

Nac ydw (104)

Pa newyddion wyt ti’n gwylio, darllen, neu wrando arno?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Newsround
  • Newyddion brif ffrwd sydd ar y teledu
  • Papurau newdd Radio

Crynodeb a Diweddglo

  • Roedd pobl ifanc a oedd yn ymateb i’n holiadur eisiau dysgu am gynlluniau gwleidyddion ar gyfer Cymru trwy bostiadau a fideos ar y cyfryngau cymdeithasol. Mewn ymatebion testun rhydd, dywedodd pobl ifanc eu bod eisiau gwybodaeth diddorol a chysylltiedig, sy’n berthnasol i bobl ifanc, a gwybodaeth sy’n hawdd eu deall. Dim ond 17% o’r plant a gwblhaodd yr holiadur oedd ddim gyda diddordeb.
  • Mae’r canlyniadau’n dangos y rôl werthfawr sydd ar hyn o bryd yn cael ei chwarae gan ysgolion wrth annog plant i ddysgu am cynnwys newyddion. Mae nifer uchel o blant a gwblhaodd yr holiadur yn defnyddio cynnwys newyddion yn yr ysgol: dywedodd 68% o blant oed cynradd eu bod yn gwylio, darllen neu’n gwrando ar y newyddion yn yr ysgol, o’i gymharu â dim ond 34% yn y cartref. Dywedodd 75% o blant a ddywedodd eu bod yn gwylio, yn darllen neu’n gwrando ar newyddion eu bod yn gwylio rhaglen newyddion y BBC Newsround.
  • Mae gwahaniaeth clir rhwng nifer y plant a’r bobl ifanc oedd yn gwybod pwy oedd Prif Weinidog Cymru (8% o’r uwchradd a 15% o’r cynradd), a’r nifer oedd yn gwybod pwy oedd Prif Weinidog Prydain (49% o’r uwchradd a 48% o’r cynradd) yn ein holidaur ciplun. Er nad yw ein canlyniadau yn gynrychioliadol yn genedlaethol, maent yn paentio darlun tebyg i lefelau blaenorol o ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth ddatganoledig. Fel y daeth Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd i’r casgliad yn ei hadroddiad diweddar, mae angen ymdrech gydgysylltiedig a pharhaus – rhaid i hyn gynnwys gwella llythrennedd gwleidyddol plant a phobl ifanc.

Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’r data

  • Byddwn yn ysgrifennu at bleidiau gwleidyddol cyn etholiad nesaf y Senedd yn eu hannog i wneud cynnwys penodol i bobl ifanc gyfathrebu eu hymrwymiadau maniffesto.
  • Byddwn hefyd yn ysgrifennu at y BBC yn gofyn iddynt ystyried dichonoldeb rhaglen newyddion Saesneg i blant yng Nghymru (yn debyg i ‘Newyddion Ni’, sy’n rhaglen newyddion i blant Gymraeg, sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghymru), o ystyried y nifer uchel o blant gwnaeth ateb ein holiadur sy ar hyn o bryd yn gwylio’r rhaglen newyddion Newsround ledled y DU.
  • Rydym wedi rhannu’r canlyniadau gyda’r Comisiwn Etholiadol a Chomisiwn y Senedd i helpu i lywio eu gwaith codi ymwybyddiaeth yng Nghymru.
  • Rydym yn parhau i gefnogi gwaith ymgysylltu ehangach ar wleidyddiaeth ac etholiad y Senedd, wrth weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid.