Ymateb y Comisiynydd i adroddiad y Farwnes Casey

Yn ymateb i adroddiad y Farwnes Casey, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Mae’r adroddiad hwn yn ddychrynllyd. A thu ôl i bob ystadegyn, a’r nifer o achosion eraill sydd wedi mynd heb eu hadrodd, mae plentyn a fethwyd gan y sefydliadau sydd yna i’w hamddiffyn.

“Tro ar ôl tro, rydyn ni wedi clywed bod materion gan gynnwys diffyg rhannu gwybodaeth, diffyg data cywir, diffyg adrodd, diffyg mynediad at gymorth therapiwtig arbenigol, wedi caniatáu i blant gael eu hecsbloetio a’u cam-drin. Rhaid i’r adroddiad diweddaraf hwn nodi diwedd y methiannau difrifol hyn. Ac wrth i ni aros am fanylion am raddfa ac amseroedd yr ymchwiliad newydd a gyhoeddwyd, mae’n hanfodol cofio bod yna argymhellion gan ymchwiliad IICSA sydd dal heb eu gweithredu. Pe baen nhw’n cael eu gweithredu, bydden nhw’n helpu diogely plant. Rhaid i ni beidio colli’r rhain, a rhaid iddyn nhw gael eu gweithredu gan lywodraethau. Mae angen i oroeswyr wybod bod y rhai sydd wrth y llyw yn gwrando ac yn cymryd camau brys.”

Nodiadau i’r golygydd: mae ein gwefan yn cynnwys tudalen sy’n nodi sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar argymhellion IICSA