Fi yw Fi
Mae’r cynlluniau gwersi hyn wedi’u creu fel rhan o brosiect “Fi yw Fi” Comisiynydd Plant Cymru sy’n dathlu hunaniaeth. Yn y gwersi hyn bydd y ffocws yn benodol ar hawliau plant. Bydd y gwersi yn canolbwyntio ar:
- Erthygl 2: Me gan bawb yr hawliau hyn waeth beth
- Erthygl 8: Mae gen i hawl i hunaniaeth
Prosiect Pleidlais
Er bod plant o dan 16 yn methu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gan holl blant Cymru hawl i gael eu gwrando a’u cymryd o ddifri (Erthygl 12).
Efallai bydd plant yn teimlo nad ydyn nhw’n derbyn rhai o’u hawliau ar hyn o bryd, neu efallai byddan nhw’n teimlo’n angerddol am fater arbennig, ac eisiau creu newid.
Rydym wedi paratoi dwy wers ar etholiadau’r Senedd a democratiaeth i chi wneud yn yr ystafell dosbarth.