Comisiynwyr Plant y gwledydd datganoledig yn apelio ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r terfyn ‘camwahaniaethol’ o ddau blentyn ar fudd-daliadau

26 Mai 2021

Heddiw mae Comisiynwyr Plant Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi llythyr a anfonwyd ganddynt at Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau, yn galw am ddileu’r terfyn dau blentyn ar Gredyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant.

Yn y llythyr, mae’r Comisiynwyr yn datgan bod y polisi, nad yw’n caniatáu taliadau budd-dal i’r trydydd plentyn na phlant dilynol a enir ar ôl Ebrill 2017 yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, yn ‘enghraifft glir o dorri hawliau dynol’ sy’n “anghyson â’r ymrwymiadau a wnaed gan y Deyrnas Unedig trwy gadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Amlygodd ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf mai Cymru sydd â’r gyfradd tlodi plant waethaf ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig, gyda 31% o blant yn byw o dan linell tlodi. Mae’n dangos cymaint o fynydd sydd gan Lywodraeth Cymru i’w ddringo. Er bod rhaid i’r Llywodraeth roi’r mater hwn ar y blaen, yn ganolog i’w rhaglen waith, a chymryd camau beiddgar i liniaru tlodi plant, mae hefyd rai rhwystrau arwyddocaol na all neb ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu dileu. Dyna pam rwyf wedi penderfynu ymuno â’m cymheiriaid yn y gwledydd datganoledig i gyflwyno neges glir i’r ysgrifennydd gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau, sef bod y system trethi a budd-daliadau yn niweidio bywydau a gobeithion plant, a bod angen gweithredu ar unwaith i leihau cyfraddau tlodi plant yn sylweddol.”

Heddiw bydd Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Senedd y Deyrnas Unedig yn clywed tystiolaeth gan Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban, a fydd yn cyflwyno barn Comisiynwyr yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru ar y cyd, sef bod rheolau budd-daliadau’r Deyrnas Unedig yn cyfyngu ar ymdrechion eu llywodraethau datganoledig i daclo tlodi plant.

Bydd yn sôn am effaith budd-daliadau lles cyfredol ar dlodi plant yn yr Alban, ac yn esbonio mai tlodi oedd yn cynrychioli’r problemau hawliau dynol mwyaf roedd plant yn eu hwynebu, cyn Covid-19, ond yn awr, dros flwyddyn yn ddiweddarach, bod y sefyllfa’n llawer mwy difrifol.

Ychwanegodd Bruce Adamson: “Byddwn ni’n parhau i alw ein llywodraethau datganoledig i gyfrif mewn perthynas â’r rhwymedigaethau sydd arnynt i barchu, diogelu a chyflawni hawliau plant, ond mae terfyn ar ba mor bell y gall y llywodraethau hyn fynd yn eu hymdrechion i sicrhau bod plant a’u teuluoedd yn cael y gefnogaeth y gallant ei hawlio tra bod y polisi camwahaniaethol hwn hefyd yn parhau mewn grym ar lefel y Deyrnas Unedig.”

Mae’r llythyr agored at y Gwir Anrhydeddus Thérèse Coffey AS yn datgan bod y terfyn dau blentyn yn torri hawliau plant i gael safon byw sy’n ddigonol, a’i fod yn cyfrannu at gynyddu’r bwlch mewn lefelau tlodi rhwng teuluoedd sydd â thri o blant neu fwy ac aelwydydd llai. Mae’r Comisiynwyr yn nodi bod y polisi hefyd yn cael effeithiau anghymesur ar grwpiau cymdeithasol lle mae teuluoedd mwy o faint yn fwy cyffredin, megis rhai grwpiau ffydd ac ethnig lleiafrifol, a hefyd yng Ngogledd Iwerddon, lle mae teuluoedd yn fwy nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

Daw’r Comisiynwyr â’u llythyr i ben trwy ddatgan bod rhaid i’r agenda ‘codi lefel’ y soniwyd amdani yn Araith y Frenhines yn gynharach y mis yma gychwyn trwy ddod â’r polisi dau blentyn i ben:

“Yn sgîl ffocws araith y Frenhines ym mis Mai 2021 ar ‘godi lefel’, ni all fod unrhyw esgus dros barhau i dorri hawliau plant trwy’r polisi camwahaniaethol hwn a fydd yn parhau i niweidio plant a theuluoedd, a’u hatal rhag symud heibio i effaith y pandemig byd-eang.”

DIWEDD

  1. Llofnodwyd y llythyr agored gan y canlynol:

Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland

Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban, Bruce Adamson

Comisiynydd Gogledd Iwerddon ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, Koulla Yiasouma

  1. Bydd Bruce Adamson yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Gwaith a Phensiynau Senedd y Deyrnas Unedig ar 26 Mai 2021 am 0930: https://committees.parliament.uk/event/4429/formal-meeting-oral-evidence-session/