Comisiynydd yn galw am osod graddau pobl ifanc ar sail asesiadau athrawon

17 Awst 2020

Galwodd y Comisiynydd hefyd ar Lywodraeth Cymru i ystyried oedi canlyniadau TGAU oni bai eu bod nhw’n sicrhau ‘ffydd y cyhoedd’.

Yn ymateb i gri pobl ifanc am y ffordd cafodd eu graddau Lefel A a chymwysterau eraill eu cyfrifo ar Ddydd Iau, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, 

“Mae’n amlwg bod y system sydd wedi cael ei roi yn ei le wedi methu rhoi’r canlyniadau roedd rhai myfyrwyr yn haeddu. Dwi ddim yn gweld unrhyw opsiwn arall ond newid i asesiadau athrawon er mwyn rhoi cyfiawnder i’r rheiny sy’n teimlo eu bod wedi cael cam.

“Mae’r bobl ifanc yma yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i brofi eu hun. Maent wedi bod ar siwrne mor anodd ers mis Mawrth a mae llawer yn teimlo bod cyfleoedd bywyd wedi newid yn llwyr oherwydd system oedd tu allan i’w rheolaeth nhw. Mae’r bobl ifanc yma wedi siarad allan yn gryf a dwi’n gwrando. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth a phryifysgolion wneud hefyd.

“Dwi hefyd yn galw ar y Llywodraeth i ystyried oedi cyhoeddi canlyniadau TGAU yr wythnos yma onibai eu bod nhw’n gwbl sicr eu bod nhw’ mynd i dderbyn ffydd y cyhoedd.

“Ry’ ni’n aml yn gofyn i bobl ifanc ddysgu o’r profiad pan fod rhywbeth yn mynd o’i le. Mae’n dyfiant meddyliol. Tu fewn i Lywodraeth, mae’n arwydd o arweiniad.”

https://www.facebook.com/childcomwales/videos/2772681546311386/?__xts__[0]=68.ARAEeTtuB8EmDiR7f5XiHR6J9mc_LdwYGOTnysFbmRSSeQyv_eoh7BEYtQjHp0_bpKZ-cVQgjCy8cckYH0DodG92VkYvIY7zZUytvPi2-RWs5Cdd9WHhkal7fiq124Fx6PyZa4B0epjmcVR6e–V4tZNm70tpDlbKp-co0pR_qpjxFtC3DPsxNHu0sKG4jAWzQxvjFmaowqUAMQSGmLZNpJyCYN6KWBjswLUlDC860XRKU1VD7SGumxzAxQLELbOjtfdSZK0Q_M63-PsnOBWqdjUIUktUybIK1SwmCdIy4THzniKnLfMJjJEgf5N_bAoc2X4SgoFH46k7Arc_PLLGUmZiiA7KvrgfMM-O90H&__tn__=-R