Ymateb i Strategaeth Cam-drin Rhywiol Plant 10 Mlynedd Cymru

Yn dilyn cwblhau’r Cynllun Gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol blaenorol, rwy’n croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i amddiffyn plant rhag Cam-drin Rhywiol Plant, ei atal, a chefnogi goroeswyr Cam-drin Plant ynRhywiol. 
 
Mae hefyd yn groesawgar gweld rhai o argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol ar Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) wedi’u cynnwys yn y strategaeth – yn benodol, datblygu set o ddata craidd, a chynigion i godi ymwybyddiaeth o Gam-drinPlant yn rhywiol a phwysigrwydd codi ymwybyddiaeth wrth helpu i nodi ac atal Cam-drin Plant yn Rhywiol. 
 
Rwyf hefyd yn croesawu cynnwys grŵp cynghori plant a phobl ifanc yn y strategaeth. Bydd ymgorffori eu barn drwy gydol y broses weithredu yn cryfhau dull sy’n seiliedig ar hawliau, yn unol ag Erthygl 12 o’r CCUHP, trwy sicrhau bod eulleisiau’n cael eu clywed yn ystyrlon wrth wneud penderfyniadau. O ystyried natur y grŵp hwn, bydd yn hanfodol mabwysiadu dull sensitif, sy’n ystyriol o drawma, yn blaenoriaethu diogelwch a lles cyfranogwyr ac yn eu hamddiffyn rhagniwed pellach. 
 
Fodd bynnag, mae gan y strategaeth hon y siawns orau o lwyddo os caiff strwythurau a llywodraethu diogelu eu gwella, ac mae adolygiad cyfredol Llywodraeth Cymru o lywodraethu diogelu yn cynnig cyfle i wneud hynny drwy argymell y dylid cyflwyno Awdurdod Diogelu Plant, galwad rwyf wedi’i gwneud ers tro ac sy’n cael ei hargymell gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Byddai Awdurdod Diogelu Plant yn symleiddio llywodraethu diogelu, ynsicrhau bod diogelu plant yn cael y sylw sydd ei angen arno, ac yn cefnogi gweithredu polisïau i ddiogelu plant, fel y Strategaeth Cam-drin Plant yn Rhywiol.