Parent and child doing school or homework together

Addysg yn y Cartref

Mae’r Comisiynydd yn cefnogi’r ffaith bod teuluoedd yn gallu dewis i addysgu eu plant adref.

Mae teuluoedd yn dewis i wneud hyn am sawl rheswm. Mae addysg yn y cartref yn gallu helpu plant i ddatblygu eu talentau a’u dawniau ac i gyrraedd eu potensial, mewn amgylchedd lle maen nhw’n hapus, yn iach, ac yn ddiogel.

Am beth mae’r Comisiynydd Plant wedi bod yn galw?

Mae’r Comisiynydd eisiau i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob plentyn yn derbyn eu hawliau dynol. Mae gan bob plentyn hawliau dynol fel rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Dylai pob plentyn profi ei hawliau, lle bynnag mae nhw’n derbyn ei addysg.

Ers 2015 mae swyddfa Comisiynydd Plant Cymru wedi galw ar bolisi Llywodraeth Cymru i fodloni tri phrawf:

  • Yn gyntaf, bod modd rhoi cyfrif am yr holl blant yng Nghymru, heb i neb ohonyn nhw fod yn anweledig.
  • Yn ail, bod pob plentyn yn derbyn addysg addas a’u hawliau dynol eraill, gan gynnwys iechyd, gofal a diogelwch.
  • Ac yn drydydd, bod pob plentyn yn cael eu gweld a bod eu barn a’u profiadau’n cael eu gwrando. Mae hyn yn hanfodol os yw’r ddau brawf cyntaf i gael eu bodloni.

Ym mis Chwefror 2021, cyhoeddodd y Comisiynydd adolygiad helaeth o weithredoedd Llywodraeth Cymru ar addysg ddewisiol yn y cartref. Darganfyddodd yr adolygiad hwn na fyddai cynigion Llywodraeth Cymru yn 2019/20 ar gyfer is-ddeddfwriaeth (rheoliadau a chanllawiau statudol) yn gallu cyflawni yr amcanion polisi a osodwyd, sef i fodloni tri phrawf y Comisynydd yn eu cyfanrwydd.

Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd Lywodraeth Cymru canllaw statudol newydd ar gyfer llywodraethau lleol. Galwodd y Comisynydd am gynllun gwerthuso i gael ei chyhoeddi wrth ochr y canllaw hwn, felly gall effeithiolrwydd bodloni y tri phrwf amlinellwyd uchod cael eu hasesu’n gywir.

Pam mae’r Comisiynydd wedi galw am hyn?

Mae galwadau’r Comisiynydd wedi cael eu llywio gan adroddiadau seiliedig ar dystiolaeth ac adolygiadau sydd wedi dangos nad yw’r cyfreithiau presennol a chanllawiau’r gorffennol ynghylch addysg gartref yn amddiffyn hawliau dynol plant.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi gwrando ar blant sy’n cael eu haddysg gartref a’u teuluoedd. Mae ystod eang o farn gan blant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysg gartref. Mae rhai pobl ifanc wedi dweud wrth y Comisiynydd eu bod nhw eisiau i’r cyfreithiau gael eu newid. Dyw pobl ifanc eraill ddim am weld unrhyw newidiadau yng Nghymru.

Ymateb y Llywodraeth i adolygiad y Comisiynydd Plant

Gallwch ddarllen ymateb Llywodraeth Cymru am ein hadolygiad yn 2021 yn y PDF yma.

Er yn derbyn ein hargymhelliad am ddeddfwriaeth sylfaenol ar addysg ddewisol yn y cartref ‘mewn egwyddor’, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi callaw statudol newydd yn lle hynny.

Gallwch ddarllen ymateb lawn y Comisiynydd i gyhoeddiad y canllaw statudol ar y dudalen hon.

Pa gefnogaeth ychwanegol mae’r Comisynydd eisiau i blant addysgir yn y cartref?

Trwy wrando ar blant sy’n cael eu haddysg gartref a’u teuluoedd, mae’r Comisiynydd wedi gofyn am ddarparu mwy o gefnogaeth i blant sy’n cael eu haddysgu gartref am faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Er enghraifft, mae’r Comisiynydd wedi gofyn am fwy o gefnogaeth i bobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref sefyll cymwysterau, a rhagor o wybodaeth er mwyn iddyn nhw fedru cael cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant. Mae Llywoadraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer cefnogaeth ychwanegol, mae awdurdodau lleol wedi defnyddio i gynnig cefnogaeth gyda cymwysterau, adnoddau addysgu a gweithgareddau llesiant. Rydyn ni’n croesawu hyn, ac hoffwn weld y dull cydweithiol yma i gefnogi hawliau plant yn parhau.

Hefyd mae’r Comisynydd wedi galw am ganllaw statudol newydd i gael ei gyfathrebu’n glir gyda phlant a addygsir yn y cartref a’u teuluoedd, er mwyn leddfu pryderon a chamsyniadau, ac i sicrhau dealltwriaeth o’r prif bwrpas o alluogi plant gael mynediad i’w hawliau.