Ymchwiliadau a Chyngor: Sut mae ein gwasanaeth yn gweithio – Cam wrth gam

Dros y ffôn

Cam 1

Pan fyddwch chi’n ein ffonio ni, bydd aelod o’n tîm gweinyddol yn gofyn i chi roi peth gwybodaeth iddyn nhw.

Byddan nhw’n gofyn am:

  • Eich enw, manylion cyswllt, a manylion y plentyn neu’r person ifanc rydych chi’n cysylltu â ni amdanyn nhw (os ydych chi’n ffonio am blentyn neu berson ifanc)
  • Rhai manylion am y mater rydych chi eisiau ei drafod

Bydd popeth rydych chi’n ei ddweud wrthyn ni yn cael ei drin yn gyfrinachol.

Cam 2

Byddan nhw’n trosglwyddo’r wybodaeth i’r swyddog ar ddyletswydd (y person o’n tîm cyngor sy’n derbyn galwadau ffôn ar y diwrnod dan sylw).

Os bydd y swyddog ar ddyletswydd yn methu derbyn eich galwad am unrhyw reswm ar yr adeg pan fyddwch chi’n ffonio, byddan nhw’n ceisio cysylltu â chi yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Os byddwch chi’n gadael neges llais i ni pan fydd y swyddfa ar gau, bydd ein swyddog ar ddyletswydd yn ceisio cysylltu â chi ar y diwrnod gwaith nesaf.

Sylwch, os gwelwch yn dda, na fyddwn ni’n gadael neges ffôn i ddweud ein bod ni wedi galw, er mwyn diogelu eich cyfrinachedd.

Sylwch, os nad yw’ch ymholiad yn ymwneud â phlentyn neu berson ifanc unigol, byddwn yn ymateb i’ch cais yn ysgrifenedig o fewn 20 diwrnodau o waith.

Ffyrdd eraill i chi gysylltu â ni

Anfon e-bost

Ffurflen ar y We

Gallwch chi hefyd ysgrifennu aton ni:

Comisiynydd Plant Cymru
Tŷ Llewellyn
Parc Busnes Glan Yr Harbwr
Heol Yr Harbwr
Port Talbot
SA13 1SB

Os gallwn ni eich helpu trwy roi cyngor ar unwaith

Cam 3

Bydd ein tîm yn rhoi cyngor i chi, neu’n eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliad mwy addas.

Cam 4

Byddwn ni’n gofyn i chi fyddech chi’n hoffi derbyn yr wybodaeth rydyn ni wedi’i rhoi i chi yn ysgrifenedig neu beidio.

Os gallwn ni roi help i chi, ond mae angen i ni gadw mewn cysylltiad â chi am gyfnod hirach

Cam 3

Byddwn ni’n trafod eich mater gyda chi ac yn rhoi cyngor, arweiniad a/neu gefnogaeth i chi.

Cam 4

Byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â chi ac yn dal i’ch helpu nes bod eich mater yn cael ei ddatrys neu nes bod dim arall y gallwn ni ei wneud i helpu, ac yna byddwn ni’n cau eich achos.

Cam 5

Byddwn ni’n anfon llythyr atoch chi yn esbonio ein bod ni wedi cau eich achos ac yn amlinellu pa gyngor, arweiniad neu gefnogaeth lwyddon ni i’w rhoi i chi.

Byddwch chi’n dal i fedru cysylltu â ni eto yn y dyfodol os cewch chi ragor o broblemau.

Cysylltu â ni trwy e-bost neu trwy ein ffurflen gysylltu

Fel yn achos galwadau ffôn, bydd ein swyddog ar ddyletswydd yn ceisio cysylltu â chi ar yr un diwrnod os byddwn ni’n derbyn eich e-bost rhwng 9am a 5pm ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae ein ffurflen gysylltu yn gweithio yn yr un ffordd.

Beth rydyn ni’n gallu ac yn methu gwneud

Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, bydd ein tîm yn ystyried ydyn ni’n gallu eich helpu chi neu beidio

Fyddwn ni ond yn medru rhoi cyngor am blentyn neu berson ifanc sydd:

  • o dan 18 oed, neu 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu o dan 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal ac yn dal ym myd addysg
  • fel arfer yn byw yng Nghymru, neu wedi cael eu lleoli yn Lloegr gan awdurdod lleol yng Nghymru
  • â chŵyn, neu sydd am gyflwyno sylwadau i wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru
  • am wneud yn siŵr bod y camau cywir yn cael eu cymryd mewn ymateb i ddatgelu camarfer
  • angen cyngor neu gefnogaeth yng nghyswllt diogelu neu hawliau plant

Allwn ni ddim:

  • gwneud ymholiadau ynghylch unrhyw fater sydd neu a fu’n destun achos cyfreithiol
  • gweithredu lle gall CAFCASS (y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd) weithredu.

Rydyn ni’n gofalu ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni yn breifat, oni bai ein bod ni’n meddwl bod plentyn neu berson ifanc ddim yn ddiogel – yna byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu i amddiffyn y plentyn.